Ymgynghoriad ar Ymagwedd ac Amcanion Cydraddoldeb
       a gynigir gan Gyngor Bwrdeisdref Blaenau Gwent


Fel rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae'n ddyletswydd ar y Cyngor i gynhyrchu Cynllun Cydraddoldeb Strategol erbyn 2 Ebrill 2012. Mae'n rhaid canoli'r cynllun o amgylch nifer o Amcanion yn canolbwyntio ar wella cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein cymunedau.

Er mwyn cynhyrchu ein drafft Amcanion Cydraddoldeb, rydym eisoes wedi cynnal nifer fawr o ddigwyddiadau ymgynghori a chyswllt gyda rhanddeiliaid allweddol, sefydliadau a phreswylwyr lleol o amgylch Blaenau Gwent - megis y Digwyddiad Cydraddoldeb yn Nhŷ Bedwellte.

Hoffem yn awr ymgynghori â phobl, grwpiau a sefydliadau lleol ar y Cynllun Cydraddoldeb ac Amcanion Cydraddoldeb a gynigiwn. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn dangos y materion sydd yn wirioneddol bwysig i'r gymuned leol, ac yn cynhyrchu cynllun fydd yn helpu i wneud Blaenau Gwent yn lle teg a chynhwysol ar gyfer byw, gweithio ac ymweld.

Gofynnir i chi neilltuo ychydig funudau i ystyried ein dull a'n hamcanion, sydd ar gael drwy ddefnyddio'r ddolen islaw, a rhannu eich sylwadau drwy gwblhau'r arolwg byr yma.

http://www.blaenau-gwent.gov.uk/surveys/docs/equality_objectives_consultation_cym.doc

Cliciwch y botwm 'nesaf' i ddechrau'r arolwg.

  I ba lefel ydych chi'n cytuno neu anghytuno gyda'r dull gweithredu cyffredinol a gynigir ar gyfer ein Cynllun Cydraddoldeb?
 
  I ba lefel ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno gyda'r pum amcan cydraddoldeb?
 
  Ticiwch os hoffech wneud sylwadau penodol am unrhyw un o'r Amcanion Cydraddoldeb dilynol:
 
 
 
 
 
 

Gwybodaeth Bersonol

Byddwn yn awr yn gofyn ein cwestiynau monitro cydraddoldeb i chi er mwyn sicrhau ein bod yn derbyn adborth gan ystod mor eang o bobl ag sydd modd.

Caiff yr holl adborth ei chadw'n hollol gyfrinachol ac ni fedrir defnyddio unrhyw data i wybod pwy yw ymatebwyr unigol. Fodd bynnag, os nad ydych yn gysurus yn ateb unrhyw un o'r cwestiynau dilynol, mae croeso i chi ei adael yn wag a symud ymlaen i'r un nesaf.

Cliciwch y botwm 'nesaf' i barhau.
  Sut ydych chi'n ymateb i'r arolwg yma?
   
  Ydych chi wedi cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd cyswllt gyda ffocws ar Gydraddoldeb ym Mlaenau Gwent, megis y digwyddiad yn Nhŷ a Pharc Bedwellte, a gynhaliwyd rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2011?
   
  A ydych yn
  Faint oedd eich oed ar eich pen-blwydd diwethaf?
  A oes gennych unrhyw salwch hirdymor, problem iechyd neu anabledd sy'n cyfyngu ar eich gweithgareddau bob dydd neu'r gwaith a wnewch?
  Os oes, pa un o'r dilynol yw'r disgrifiad gorau o'ch salwch hirdymor, problem iechyd neu anabledd?
   
  Pa iaith ydych chi'n ystyried yw eich iaith gyntaf?
   
  Pa un o'r dilynol yw'r disgrifiad gorau o'ch gallu yn y Gymraeg?
  Pa un o'r dilynol yw'r disgrifiad gorau o'ch hunaniaeth ethnig?
   
  Beth yw eich statws priodasol cyfreithiol?
   
  I ba grefydd ydych chi'n perthyn?
   
  Beth yw eich cyfeiriadaeth rywiol?
   


Diolch i chi am neilltuo'r amser i gwblhau'r arolwg yma. Cliciwch y botwm 'anfon' yn awr i anfon eich ymatebion os gwelwch yn dda.