Ysbrydoli i Weithio

Ariennir Ysbrydoli i Weithio gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae’r prosiect yn defnyddio sgiliau a gwybodaeth tîm o weithwyr ieuenctid sy’n cefnogi pobl ifanc 16-24 oed ym Mlaenau Gwent i sefydlu a chynnal lleoliad mewn dysgu pellach, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae pobl ifanc yn creu cynlluniau gweithredu unigol i gyrraedd eu potensial.

 

Mae cymorth Ysbrydoli i Weithio yn cynnwys: 

- Adeiladu Sgiliau (lleoliadau gwaith, gwirfoddoli, sgiliau cyfathrebu, adnabod potensial)

- Cyflogadwyedd (cymorth chwilio am swydd, ffurflenni cais, technegau cyfweld, llunio CV, cyrchu cymorth ehangach)

- Iechyd a Lles (hyder a hunan-barch, rheoli pryderon, cymorth mentora, ffyrdd iach o fyw, gan gynnwys dewisiadau bwyd, maeth a gweithgareddau hamdden, sgiliau byw’n annibynnol, a gwneud dewisiadau cadarnhaol)

 

Mae Ysbrydoli i Weithio yn cael ei arwain gan bobl ifanc, gan gefnogi pobl ifanc ar eu cyflymder eu hunain i gyrraedd eu nodau a’u potensial.

 

Gwybodaeth Gyswllt

Ben Arnold
NEETS Projects Manager 

Ffon: 01495 357864
Ffon: 07791443612
E-bost: Ben.Arnold@blaenau-gwent.gov.uk