Newid Ysgol

Mae newid ysgol o fewn y Flwyddyn Academaidd yn gam arwyddocaol ar gyfer plentyn, ond rydym yn deall bod penderfyniad o’r fath yn gallu bod yn anochel, ac yn y lle cyntaf, buasem yn gofyn eich bod yn trafod hyn gyda phrifathro cyfredol y plentyn.

Os ydych chi, yn dilyn y drafodaeth hon, yn dal i fod eisiau trosglwyddo'ch plentyn i ysgol newydd, cliciwch ar y ddolen.

Ysgolion Cynradd

Os oes lle gwag addas, bydd plentyn yn cael ei derbyn i’r ysgol. Mae’n bosib bydd dosbarthiadau yn cynnwys mwy nag un grŵp oedran ac yn yr achosion hyn bydd y prifathro yn rhoi lle i’r plentyn yn y dosbarth mwyaf priodol.

O fis Medi 2001 fe roddodd y Llywodraeth derfyn ar nifer y plant sy’n gallu mynychu dosbarthiadau babanod bach a derbyn, sef uchafswm o 30 disgybl. Gallai hyn olygu bod dim lle gwag addas ar gael.

Ysgolion Uwchradd

Gall fod resymau addysgol cryf pam na ddylai trosglwyddiad ddigwydd ac mae angen i rieni eu hystyried, yn enwedig o ran disgyblion ym Mlwyddyn 10 ac 11 ble mae disgyblion eisoes wedi cychwyn cyrsiau arholi. 

Ble mae cais yn ymwneud â disgybl ym mlwyddyn 10 neu 11, rhaid darparu manylion o’r cyrsiau sy’n cael eu hastudio. 

Er na fod y rhif derbyn yn grŵp oedran y plentyn wedi cael ei chyrraedd, efallai ni fydd yn bosib cynnig opsiynau cyfredol y plentyn.

Os oes lle yn y flwyddyn briodol ar gyfer y plentyn ac y byddai’r derbyn ddim yn mynd dros y rhif derbyn gyhoeddedig, yna dylid derbyn y plentyn i’r ysgol.

Diet Arbennig

I wneud cais am ddiet arbennig, llenwch y ffurflen gais am ddiet arbennig a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar waelod y ffurflen.

Unwaith y bydd yr Adran Arlwyo a Dietegydd wedi derbyn y ffurflen, byddwch naill ai yn derbyn bwydlen diet arbennig ar gyfer eich plentyn drwy’r post/e-bost neu byddant yn cysylltu â chi i drafod gofynion eich plentyn yn fwy manwl cyn anfon bwydlen atoch. Gofynnir i chi ganiatáu hyd at 3 wythnos i’ch bwydlen gyrraedd.

I warchod iechyd eich plentyn, mae’r Adran Arlwyo yn gofyn i chi ddarparu cinio pecyn o gartref ar gyfer eich plentyn nes byddwch wedi cael cadarnhad o ddyddiad dechrau.

Prydau Ysgol am Ddim i Holl Ddisgyblion Ysgolion Cynradd

Bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael prydau ysgol am ddim erbyn 2024. Mae’r ymrwymiad hwn mewn ymateb i bwysau cynnydd costau byw ar deuluoedd a’r uchelgais a rannwn o drechu tlodi tanwydd a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn newynog yn yr ysgol. Mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i weithredu’r cynllun cyn gynted ag sy’n bosibl. Mae hefyd fuddion ehangach o brydau ysgol am ddim, yn cynnwys hyrwyddo bwyta’n iach ar draws yr ysgol, cynyddu amrywiaeth y bwyd y gall dysgwyr ei fwyta, gwella sgiliau cymdeithasol adegau pryd bwyd, yn ogystal â gwella ymddygiad a chyrhaeddiad. Mae’r polisi yn rhan o Gytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, fydd yn gweld prydau ysgol am ddim yn cael eu hymestyn i bob disgybl ysgol gynradd dros y tair blynedd nesaf.

Dechreuodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ddarparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion sy’n mynychu dosbarth meithrin, dosbarth Derbyn, blynyddoedd 1 a 2 ar ddechrau tymor yr hydref 2022. Caiff y cynnig ei ymestyn i Flynyddoedd 3 i 6 ym mis Medi 2023.

Nid oes angen cofrestru. Y cyfan fydd angen yw i’ch plentyn ddweud os yw angen cinio ysgol mewn cofrestru ar ddechrau’r diwrnod ysgol. Hefyd, os oes gan eich plentyn alergedd neu anoddefgarwch bydd angen i chi lenwi a dychwelyd y Ffurflen Gais Diet Arbennig.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Tîm Trawsnewid Addysg, Derbyniadau Ysgolion

Rhif Ffôn: (01495) 355493/ (01495) 355340

Cyfeiriad: Y Gyfarwyddiaeth Addysg, Llawr 8, Llys Anvil, Abertyleri, NP13 1DB

Cyfeiriad e-bost: Eleri.griffiths@blaenau-gwent.gov.uk