Derbyniadau Uwchradd

Rownd Derbyn Eilaidd 2023-24

Mae'r cylch derbyn ar gyfer Ysgol Uwchradd am y flwyddyn academaidd yn dechrau ar 25 Medi 2023 ac yn cau ar 24 Tachwedd 2023. Dim ond ceisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig, gyda thystiolaeth ategol berthnasol ar gyfer derbyn ffurflenni cais, fydd yn cael eu hystyried yn rownd gychwynnol dyraniadau disgyblion. Gall ffurflenni a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn, neu ffurflenni anghyflawn, arwain at wrthod lle i blentyn yn yr ysgol uwchradd o'u dewis. 

Caiff dyddiadau pwysig i chi fel rhiant eu  dangos yma: Dyddiadau Derbyn Ysgolion a Meithrinfeydd 2023

Mae plant yn trosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd ar ddechrau'r flwyddyn ysgol yn dilyn eu pen-blwydd yn 11 oed (h.y. os yw'ch plentyn yn 11 oed rhwng 1 Medi 2023 a 31 Awst 2024 byddai ganddynt hawl i le mewn ysgol uwchradd ym mis Medi 2024).

Cofrestrwch a llenwi'r ffurflen ddilynol ar gyfer derbyniadau uwchradd os gwelwch yn dda.

Er y gwneir pob ymdrech i ddarparu ar gyfer disgyblion, mae'n rhaid gwneud cais i fynychu Ysgol Uwchradd ar yr adeg priodol.

Mae'n gyfrifoldeb arnoch yn ôl y gyfraith i sicrhau fod eich plentyn yn derbyn addysg lawn-amser briodol.

Os ydych yn dal yn ansicr pa ysgol i'w dewis ar gyfer ein plentyn, darllenwch ein Llyfryn Cychwyn Ysgol.

I gael mwy o wybodaeth ar y Broses Derbyn i Ysgolion, darllenwch Bolisi Derbyniadau Ysgol Blaenau Gwent ar gyfer Meithin ac Addysg Statudol 2025/26.

I gael mwy o wybodaeth ar y broses dderbyn neu i wneud cais am gopi o'r llyfryn Dechrau yn yr Ysgol, cysylltwch â'r Swyddog Derbyn ar: 01495 355493 neu ebost: schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk 

Diet Arbennig

I wneud cais am ddiet arbennig, llenwch y ffurflen gais am ddiet arbennig a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar waelod y ffurflen.

Unwaith y bydd yr Adran Arlwyo a Dietegydd wedi derbyn y ffurflen, byddwch naill ai yn derbyn bwydlen diet arbennig ar gyfer eich plentyn drwy’r post/e-bost neu byddant yn cysylltu â chi i drafod gofynion eich plentyn yn fwy manwl cyn anfon bwydlen atoch. Gofynnir i chi ganiatáu hyd at 3 wythnos i’ch bwydlen gyrraedd.

I warchod iechyd eich plentyn, mae’r Adran Arlwyo yn gofyn i chi ddarparu cinio pecyn o gartref ar gyfer eich plentyn nes byddwch wedi cael cadarnhad o ddyddiad dechrau.

Prydau Ysgol am Ddim i Holl Ddisgyblion Ysgolion Cynradd

Bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael prydau ysgol am ddim erbyn 2024. Mae’r ymrwymiad hwn mewn ymateb i bwysau cynnydd costau byw ar deuluoedd a’r uchelgais a rannwn o drechu tlodi tanwydd a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn newynog yn yr ysgol. Mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i weithredu’r cynllun cyn gynted ag sy’n bosibl. Mae hefyd fuddion ehangach o brydau ysgol am ddim, yn cynnwys hyrwyddo bwyta’n iach ar draws yr ysgol, cynyddu amrywiaeth y bwyd y gall dysgwyr ei fwyta, gwella sgiliau cymdeithasol adegau pryd bwyd, yn ogystal â gwella ymddygiad a chyrhaeddiad. Mae’r polisi yn rhan o Gytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, fydd yn gweld prydau ysgol am ddim yn cael eu hymestyn i bob disgybl ysgol gynradd dros y tair blynedd nesaf.

Dechreuodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ddarparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion sy’n mynychu dosbarth meithrin, dosbarth Derbyn, blynyddoedd 1 a 2 ar ddechrau tymor yr hydref 2022. Caiff y cynnig ei ymestyn i Flynyddoedd 3 i 6 ym mis Medi 2023.

Nid oes angen cofrestru. Y cyfan fydd angen yw i’ch plentyn ddweud os yw angen cinio ysgol mewn cofrestru ar ddechrau’r diwrnod ysgol. Hefyd, os oes gan eich plentyn alergedd neu anoddefgarwch bydd angen i chi lenwi a dychwelyd y Ffurflen Gais Diet Arbennig.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Enw'r Tîm: Tîm Trawsnewid Addysg, Derbyn i Ysgolion

Rhif Ffôn: (01495) 355493/ (01495) 355340

Cyfeiriad: Cyfarwyddiaeth Addysg, Llawr 8, Llys Einion, Abertyleri, NP13 1DB

Cyfeiriad E-bost: schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk