Canfasio Blynyddol

Cynlluniwyd y canfasiad blynyddol i gael enw a chyfeiriad pob person sy’n gymwys i fod ar y gofrestr etholwyr – y rhestr o’r bobl hynny a all bleidleisio mewn etholiadau a refferenda.. Y gofrestr yw sylfaen democratiaeth yn y Deyrnas Unedig ac mae cywirdeb y gofrestr yn bwysig tu hwnt. Yng Nghymru gallwch yn awr gofrestru i bleidleisio o 14 oed a phleidleisio yn 16 oed. Gall dinasyddion tramor hefyd bleidleisio yn etholiadau Cymru.

Caiff yr etholwyr sydd eisoes ar ein cofrestr eu cymharu gyda data sydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd hyn yn ein helpu i ganfod yr eiddo lle gall preswylwyr fod wedi newid. Bydd yr wybodaeth hon hefyd yn ein helpu i benderfynu pa ohebiaeth a anfonir i’r eiddo.

Gall pobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau ac is-etholiadau llywodraeth leol. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i ni yn awr gofrestru pobl 14 a 15 oed. Os oes unrhyw un 14 oed neu hŷn yn byw yn eich cartref, gallant gael eu hychwanegu at y gofrestr etholiadol fel y gallant bleidleisio yn yr etholiadau hyn pan fyddant yn cyrraedd 16 oed.

Gall pob dinesydd tramor (sy’n byw yn gyfreithiol yng Nghymru) hefyd bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau ac is-etholiadau llywodraeth lleol. Yn flaenorol, dim ond dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig, y Gymanwlad neu’r Undeb Ewropeaidd oedd â hawl pleidleisio. Mae hyn yn golygu y gall pobl tu allan i’r gwledydd hyn hefyd yn awr bleidleisio yn yr etholiadau yma.

Byddwn yn dechrau dosbarthu ffurflenni canfasiad o 15 Awst 2022 ymlaen. Os yw eich data gennym eisoes byddwch yn derbyn Cyfathrebiad Canfasiad A (CCA), os yw’r holl fanylion yn gywir, ni fydd angen i chi wneud dim byd pellach. Mae’n rhaid i chi ymateb os oes newidiadau.

Os nad yw eich data gennym neu os ydym yn amau fod newid wedi bod, byddwn yn anfon Cyfathrebiad Canfasiad B (CCB) atoch. Mae angen ymateb i’r ffurflen hon a gall hynny fod ar-lein, dros y ffôn neu drwy ddychwelyd y ffurflen ar ôl ei llenwi.

Sut i ymateb i Gyfathrebiad Canfasiad A

Os yw’r manylion a argraffwyd ymlaen llaw ar y CCA yn gywir (e.e. neb wedi symud i mewn neu allan o’r eiddo ac os nad oes unrhyw newidiadau i’r ffurflen a gawsant), nid oes angen i chi wneud dim mwy.

Sut i ymateb i Gyfathrebiad Canfasiad B

Os yw’r manylion a argraffwyd ymlaen llaw ar y CCB yn gywir (e.e. nid oes neb wedi symud i mewn neu allan o’r eiddo ac os nad oes unrhyw newidiadau i’r ffurflen a gawsant), gallwch ffonio 0808 284 1565, rhoi eich cod sicrwydd a chyfrinair pan ofynnir i chi wneud hynny a chadarnhau fod eich ffurflen y gywir. Gallwch hefyd fynd ar-lein i gadarnhau fod y manylion yn gywir. Ni ddylai hyn gymryd mwy na 3 munud i chi ei wneud. Yn lle hynny, gallech lenwi’r ffurflen bapur a’i dychwelyd atom.

Mae Cyfathrebiad B yn golygu nad yw’r wybodaeth berthnasol ar eich aelwyd gennym i baru eich data. Felly mae’n ofyniad cyfreithiol eich bod yn ymateb i’r ffurflen canfasiad. Bydd angen i chi gynnwys unrhyw un dros 14+ oed yn eich eiddo.

Sut mae llenwi’r ffurflen?

Dim ond ychydig funudau y bydd yn ei gymryd i lenwi’r ffurflen. Mae angen i chi gynnwys enw a dinasyddiaeth unrhyw un 14 oed neu drosodd sy’n breswyl ac yn gymwys i gofrestru i bleidleisio. Os nad oes unrhyw breswylwyr cymwys, dylech nodi pam felly. Os nad yw rhywun a restrir ar y ffurflen yn byw yn eich cyfeiriad, dylai eu henwau gael eu croesi mas yn glir.

Beth sy’n digwydd unwaith y byddaf wedi ymateb?

Unwaith y byddwn wedi derbyn yr wybodaeth byddwn yn ei gwirio o gymharu â’r gofrestr etholiadol. Os oes unrhyw beth wedi ei ychwanegu, ei ddileu neu ei newid, caiff hyn ei ddiweddaru ar y gofrestr etholiadol.

Os ydych wedi ychwanegu rhywun at yr eiddo, anfonir ffurflen Gwahoddiad i Gofrestru arnynt neu gallant gofrestru ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Byddant angen eu dyddiad geni a’u rhif yswiriant gwladol i gofrestr.

Os dywedwch wrthym fod rhywun wedi symud bant, byddwn yn anfon llythyr at y person hynny fel fod gennym gadarnhad eu bod wedi symud. Mae hyn oherwydd fod angen i ni gael dau ddarn o dystiolaeth i dynnu rhywun o’r gofrestr etholiadol.

Beth os nad wyf yn ymateb?

Os nad ydych yn ymateb i’r cyfathrebiad neu’r nodyn atgoffa pan ofynnwyd i chi, gallwch gael galwad ffôn gan ein swyddfa neu neu gall canfasiwr (swyddog o’r cyngor) ymweld â’ch annedd i gadarnhau gyda chi wyneb yn wyneb.

A yw fy manylion yn ddiogel os byddaf yn llenwi fy ffurflen ar-lein?

Caiff eich gwybodaeth ei chadw’n ddiogel os ydych yn llenwi eich ffurflen ar-lein. Cafodd y gwasanaeth cofrestru ar-lein ei achredu’n annibynnol a’i brofi ar gyfer diogelwch. Cafodd ei ddatblygu i gyflawni arfer gorau ar gyfer sicrwydd data.

Newidiadau tu allan i’r Canfasiad Blynyddol

Bydd angen i chi ail-gofrestru os yw eich amgylchiadau yn newid ar ôl y canfasiad blynyddol, tebyg i symud tŷ neu newid eich enw. 

Bydd angen i bob person sy’n gymwys i bleidleisio yn yr eiddo gofrestru yn unigol.

Y gofrestr agored

Mae dwy gofrestr. Pam?

Gan ddefnyddio gwybodaeth a gafwyd gan y cyhoedd, mae swyddogion cofrestru yn cadw dwy gofrestr – y gofrestr etholiadol a’r gofrestr agored (a gaiff hefyd ei galw y gofrestr wedi ei golygu).

Y gofrestr etholiadol

Mae’r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Caiff y gofrestr ei defnyddio ar gyfer dibenion etholiadol, tebyg i wneud yn siŵr mai dim ond pobl gymwys all bleidleisio. Fe’i defnyddir hefyd ar gyfer dibenion cyfyngedig eraill a nodir yn y gyfraith, tebyg i:

  • canfod troseddu (e.e. twyll)
  • galw pobl am wasanaeth rheithgor
  • gwirio ceisiadau credyd

Y gofrestr agored 

Mae’r gofrestr agored yn ddetholiad o’r gofrestr etholiadol, ond ni chaiff ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, mae busnesau ac elusennau yn ei defnyddio i gadarnhau manylion enw a chyfeiriad. Caiff eich enw a’ch cyfeiriad eu cynnwys yn y gofrestr agored os nad ydych yn gofyn am iddynt gael eu tynnu. Nid yw tynnu eich manylion o’r gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio.

Mae mwy o wybodaeth am y ddwy gofrestr a sut y gellir eu defnyddio ar gael yn Gov.uk Cofrestru i Bleidleisio.

Gwybodaeth Cyswllt

Gwasanaethau Etholiadol

Rhif Ffôn:            01495 355088

Cyfeiriad:           Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN

E-bost:                electoralservices@blaenau-gwent.gov.uk