Llifogydd a Systemau Draenio

Rhoi gwybod am ddigwyddiad lle cafwyd llifogydd

A yw’n achos brys?

Os yw dŵr yn dod i mewn i’ch eiddo neu os oes perygl i fywyd, galwch y gwasanaethau brys ar 999

Os yw’ch eiddo dan ddŵr ac angen siarad â rhywun am fwy o wybodaeth, cysylltwch o Tu allan i oriau gwaith 01495 311556

Llifogydd o’r Priffyrdd

Dylid hysbysu Adran y Priffyrdd o lifogydd a achoswyd gan ddraeniau neu gwteri’n gorlifo o fewn y rhwydwaith priffyrdd a reolir gan y Cyngor ar y manylion cyswllt isod:

  • Ffôn: 01495 311556

Dylid rhoi gwybodaeth am lifogydd a achoswyd gan ddraeniau neu gwteri’n gorlifo ar Gefnffyrdd (A465) i Asiantaeth Trafnidiaeth De Cymru

Llifogydd o afonydd

‘Prif afonydd’

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am reoli llifogydd o’r afonydd mwy o faint, a elwir yn ‘brif afonydd’. O fewn Blaenau Gwent y rhain yw:

  • Afon Sirhywi
  • Afon Ebwy
  • Afon Ebwy Fach

Dylid hysbysu llifogydd o brif afonydd i linell gymorth digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0800 80 70 60 (24-awr)

Er mwyn gwrando ar wybodaeth yn ymwneud â rhybuddion llifogydd yn eich ardal neu siarad â rhywun am gyngor, galwch 0845 986 1188 (24-awr) (Dalier sylw: Mae galwadau i'r rhif hwn yn costio 5c y funud ynghyd â ffi defnydd eich cwmni ffôn).

 

Afonydd eraill

Mae cyrsiau dŵr llai, heb eu dosbarthu fel ‘prif afonydd’ yn syrthio dan gyfrifoldeb y Cyngor. Cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, ar 01495 311556

Llifogydd o garthffos gyhoeddus, neu brif bibell ddŵr wedi torri neu bibell gwasanaeth dŵr

Dylid hysbysu llifogydd o’r ffynonellau hyn i Dŵr Cymru Welch Water ar 0800 0853968 (24-awr)

Llifogydd o bob ffynhonnell arall

Y Cyngor sy’n gyfrifol am reoli’r risg sy’n codi o lifogydd o ddŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin (cyrsiau dŵr llai a ffosydd)

Os ydych yn profi llifogydd o ddŵr wyneb (yn rhedeg neu’n cronni’n bwll) dŵr daear neu unrhyw gyrsiau dŵr llai neu ffosydd (cyrsiau dŵr cyffredin) cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, ar 01495 311556.

Digwyddiadau llifogydd hanesyddol

Bydd gwella’n gwybodaeth a’n dealltwriaeth o ddigwyddiadau llifogydd hanesyddol ar draws y fwrdeistref yn ein cynorthwyo i ffocysu’n hadnoddau a’n cyllid tuag at yr ardaloedd hynny sydd yn fwyaf tebygol o brofi llifogydd.

Rydym yn gweithio i sefydlu tudalen we i ganiatáu i chi lanlwytho gwybodaeth sydd gennych mewn perthynas â digwyddiadau cyfredol a hanesyddol o ddigwyddiadau o lifogydd.

Yn y cyfamser os oes gennych unrhyw wybodaeth berthnasol ar ddigwyddiadau hanesyddol o lifogydd, gan gynnwys lluniau, anfonwch wybodaeth, os gwelwch yn dda, i’r tîm cynllunio polisi gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.

Gwybodaeth Gyswllt

Am wybodaeth bellach cysylltwch, os gwelwch yn dda â

Gwasanaethau Datblygu
Adran Gwasanaethau Technegol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Swyddfa Uniongyrchol Blaenau
Blaenau
NP13 3XD

E-bost: planningpolicy@blaenau-gwent.gov.uk

Am wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda, â

Carthffosydd Cyhoeddus/ dŵr brwnt a dŵr wyneb

Cyswllt -  Dŵr Cymru 0800 085 3968

Yr holl faterion draenio sy’n gysylltiedig ag afonydd

Cyswllt – Cyfoeth Naturiol Cymru: 03708 506 506

Draenio Priffyrdd a Thir

Cyswllt - C2BG 01495 311556