Graddfeydd Hylendid Bwyd

Gallwch nawr ddod o hyd i raddfa hylendid busnes sy’n gysylltiedig â bwyd, megis bwyty neu siop tecawê, drwy gyfrwng gwefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae’r graddfeydd hyn yn ganlyniad archwiliad hylendid a fydd wedi ei gyflawni gan swyddog o Wasanaeth Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor. Rhoddir i fusnesau bwyd raddfeydd, o 0 i 5.

Mae graddfa ‘0’ yn datgan bod gwelliannau brys yn ofynnol tra golyga graddfa ‘5’ bod y safonau hylendid yn dda iawn.

Mae’r raddfa hylendid neu ganlyniad yr archwiliad a roddir i fusnes bwyd yn adlewyrchu safonau’r hylendid bwyd a welwyd ar ddyddiad yr archwiliad neu’r ymweliad. Nid yw’r raddfa’n ganllaw ar gyfer ansawdd bwyd.

Ailymwelir yn rheolaidd â safleoedd sy’n sgorio 0, 1 neu 2 i sicrhau bod safonau'n gwella’n gyflym. Os yw’n angenrheidiol, bydd swyddogion yn cau safle nes bod y risg wedi ei symud.

Cyflawnir ymweliadau â’r holl safleoedd bwyd, cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol bosibl, heb rybudd ymlaen llaw ac fe’u rhaglennir yn ôl blaenoriaeth yn unol â’r raddfa o risg bosibl. Mae hyn yn sicrhau yr ymwelir â safleoedd mewn categori uwch o ran risg yn amlach na’r rheiny mewn categori is o ran risg.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am Gynllun Sgorio Hylendid Bwyd, gan gynnwys y busnesau hynny yn rhychwant y cynllun a’u graddfa hylendid bwyd gyfredol ar www.food.gov.uk 

Mae’n ofyniad cyfreithiol i unrhyw fusnesau bwyd sydd wedi derbyn graddfa hylendid i arddangos eu sgôr. Pe byddech yn hoffi rhoi gwybod i ni am unrhyw fusnes sy’n arddangos sgôr anghywir neu fusnes nad yw’n arddangos ei sgôr o gwbl, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, drwy gyfrwng y swyddogaeth ‘rhowch wybod’ neu fel arall drwy ddefnyddio’r wybodaeth gyswllt isod.

Gwybodaeth Gyswllt

Tîm Masnachol
Rhif Ffôn: 01495 357813
Cyfeiriad: Amddiffyn y Cyhoedd –
Iechyd yr Amgylchedd, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk