Cofrestru Busnesau Bwyd – Cychwyn Busnes Bwyd Newydd

Er mwyn storio, paratoi, dosbarthu neu werthu bwyd ar neu o unrhyw safle, bydd angen i chi yn gyntaf fod wedi’ch cofrestru gyda’r Cyngor. Mae’r safleoedd sydd angen eu cofrestru yn cynnwys bwytai, caffis, gwestai, siopau, ffreuturau, stondinau marchnad, faniau arlwyo symudol a faniau dosbarthu bwyd (sylwer, os gwelwch yn dda, nad yw hon yn rhestr faith).

Gallai fod angen i rai gweithgynhyrchwyr sy’n trafod cynnyrch ddaw o anifeiliaid orfod cael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol neu gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Cyfeiriwch, os gwelwch yn dda, at dudalen Ceisiadau Hylendid Bwyd a Gymeradwywyd a Mangreoedd a Gymeradwywyd.

Os ydych yn ansicr a yw’ch busnes angen cael ei gymeradwyo neu ei gofrestru, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â’r Tîm

Masnachol o fewn Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd.

Pwy All Wneud Cais?

Nis oes cyfyngiadau ar bwy all wneud cais am gofrestru busnes bwyd.

Pa ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r cais hwn?

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n gysylltiedig â’r cofrestru.

A oes yn rhaid i fi dalu ffi am gofrestru?

Nid oes ffi yn daladwy am y cais hwn.

Faint fydd hi’n cymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn weithredol?

Bydd eich cais yn cymryd hyd at 28 niwrnod i’w brosesu ac fe fydd caniatâd dealledig yn weithredol. Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu fel pe bai’ch cais wedi ei ganiatáu os nad ydych wedi clywed oddi wrth y Cyngor erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed o at 28 niwrnod.

Cofiwch, os gwelwch yn dda, ei bod yn drosedd gweithredu fel busnes bwyd heb gofrestru gyda Chyngor.

Gwnewch gais i gofrestru fel busnes bwyd.

A allaf i apelio os yw fy nghais yn aflwyddiannus?

Cysylltwch, os gwelwch yn dda, â’r Tîm Masnachol o fewn Iechyd yr Amgylchedd yn y lle cyntaf ynghylch unrhyw geisiadau trwydded a ddychwelwyd neu a wrthodwyd.

Cwyn Defnyddiwr

Petaech yn dymuno gwneud cwyn, os gwelwch yn dda, cysylltwch â’r Tîm Masnachol o fewn Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd.

Cofrestr Gyhoeddus

Cysylltwch, os gwelwch yn dda, â’r Tîm Masnachol o fewn Iechyd yr Amgylchedd i drefnu gweld y Gofrestr Gyhoeddus .

Ffurflen Gofrestru

Cliciwch yma, os gwelwch yn dda, am y Ffurflen Gofrestru gyfredol.

Wedi cyflwyno’r Ffurflen Gofrestru mae’n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau i’r amgylchiadau a nodwyd uchod (gan gynnwys cau’r busnes) i’r awdurdod bwyd o fewn 28 niwrnod i’r newid (iadau) ddigwydd.

Cyngor Ychwanegol i Weithredwyr Busnesau Bwyd Newydd

Gellir derbyn gwybodaeth bellach parthed cofrestru busnes bwyd neu ddiweddaru cofrestriad busnes bwyd cyfredol drwy gysylltu â’r Tîm Masnachol o fewn Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd. Mae cyngor a deunyddiau atodol i sefydlu busnes bwyd ar gael ar http://food.gov.uk/

Gwybodaeth Gyswllt

Tîm Masnachol
Rhif Ffôn: 01495 357813
Cyfeiriad: Amddiffyn y Cyhoedd –
Iechyd yr Amgylchedd, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk