Clefydau Heintus

Rheoli Clefydau Heintus

Mae swyddogion yn Adran Iechyd yr Amgylchedd yn ymchwilio i achosion o glefydau trosglwyddadwy (heintus), gan gynnwys gwenwyn bwyd. Amcanion ein hymchwiliadau yw:

  • Ceisio adnabod achos yr haint
  • Atal yr haint rhag lledu ymhellach
  • Darparu gwybodaeth i gleifion a pherthnasau

Pe byddech yn hoffi rhoi gwybod i ni am afiechyd yna, os gwelwch yn dda, cysylltwch â 01495 358713 neu fel arall cwblhewch y ffurflen ar-lein.

I sicrhau ymchwiliad effeithiol rydym yn gweithio’n glos gydag awdurdodau lleol eraill ar weithgarwch cydgysylltiedig lle mae’r haint yn effeithio pobl ar draws ffiniau, a gyda’r prif sefydliadau eraill sy’n ymwneud â rheoli clefydau trosglwyddadwy. Mae’r rhain yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymddiriedolaethau’r GIG.

Byddwn yn ymchwilio’r holl achosion o glefydau trosglwyddadwy lle mae agwedd o iechyd cyhoeddus megis bwyd, dŵr, galwedigaeth, gweithgareddau hamdden neu gyswllt gydag anifeiliaid.

Mae gwybodaeth a chyngor ar yr amrywiol facteria, feirysau a pharasitiaid a all achosi haint, ac ar reoli haint, ar gael gan Wasanaeth Iechyd yr Amgylchedd.

Yn arbennig, gallwn ddarparu cyngor ar yr organebau canlynol:

  • Campylobacter
  • Cryptosporidium
  • E. coli O157
  • Giardia lamblia
  • Feirws Hepatitis A  
  • Legionella (Clefyd y Llengfilwyr)
  • Listeria
  • Salmonella
  • Gastro-enteritis feirysol
  • Mathau eraill o wenwyn bwyd

Fodd bynnag, pe byddai gennych chi gwestiwn ynghylch sefydliad neu glefyd nad yw wedi ei restru uchod, os gwelwch yn dda, peidiwch â phetruso cysylltu â ni. Gallwn ddarparu cyngor a chroesawn gyswllt oddi wrth aelodau’r cyhoedd, gweithredwyr busnesau bwyd, darparwyr gofal ac ati.

Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o wybodaeth am amrywiol fathau o glefydau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwybodaeth ar reoli heintiau, a hysbysiadau odd wrth Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Contact Information

Commercial Team
Telephone Number: 01495 357813
Address:  Public Protection – Environmental Health, Commercial Team, Municipal Offices, Civic Centre, Ebbw Vale, NP23 6XB
Email Address: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk