Teuluoedd yn Gyntaf

Teuluoedd yn Gyntaf Ymgysylltu Cymunedol

Mae gan Teuluoedd yn Gyntaf ddau Weithiwr Cymorth Ymgysylltu Cymunedol o fewn y tim, i adnabod bylchau yn Blaenau Gwent i Deuluoedd a Phobl Ifanc a sefydlu mentrau newydd yn yr ardal. Mae ganddon ni ddiddordeb mawr i glywed eich syniadau ynghylch unrhyw weithgareddau neu brosiectau yr hoffech eu gweld yn eich cymunedau. Tybed a wnewch chi sbario ychydig amser i lenwi'r holiadur hwn?
 
Dolen Arolwg - https://online1.snapsurveys.com/p5h0zm

Ariannir rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf gan Lywodraeth Cymru i helpu teuluoedd sy’n wynebu anawsterau. Mae tîm Teuluoedd yn Gyntaf yn cynnig gwahanol fathau o gefnogaeth yn dibynnu ar yr angen. Bydd problemau cymhleth angen llawer o gefnogaeth, fodd bynnag, bydd rhai teuluoedd angen cymorth i’w helpu i oresgyn problemau llai er mwyn eu stopio rhag gwaethygu.  
   
Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn ymwneud â darparu cefnogaeth i’r teulu cyfan. Ym Mlaenau Gwent mae gan raglen Teuluoedd yn Gyntaf tîm canolog yng Nghanolfan Plant Integredig Y Cymoedd Canol, High Street, Blaina.  

Mae’r tîm yn gweithio gyda’r teulu i edrych ar y problemau gwahanol gallent fod yn eu hwynebu ac yn cynnig Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd (JAFF) i’r teulu. Mae’r broses hon yn rhoi cyfle i nodi anghenion pob aelod o’r teulu a’u rheoli trwy ddynodi gweithiwr allweddol. Yna defnyddir ymagwedd Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) i gefnogi’r teulu ar eu taith.  

Mae’r gweithiwr allweddol yn sicrhau bod gwahanol wasanaethau’n gweithio gyda’i gilydd i gynnig y gefnogaeth orau allai gynnwys Ysgolion, Ymwelwyr Iechyd, yr Heddlu a Thai.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

ICC Derbyniad: 01495 355584 

Cyfeiriad e-bost: familyfirst@blaenau-gwent.gov.uk