Gofal Plant

Dewis Gofal Plant 

Mae dewis y math cywir o ofal plant yn benderfyniad pwysig ac yn un personol iawn; mae’r math gorau o ofal plant i chi yn dibynnu ar eich sefyllfa deuluol.  

Gall y gwahanol fathau o ddarpariaeth ymddangos yn ddryslyd heb wybodaeth ddigonol. Ein nod yw sicrhau eich bod yn gallu gwneud dewis hysbys, gan wybod eich bod wedi ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael.   

Y prif ddewisiadau ar gyfer gofal plant yw gwarchodwyr plant, meithrinfeydd dydd, clybiau gofal plant ar ôl ysgol, clybiau gwyliau a gofalwyr plant yn y cartref. Ar ben hynny, mae clybiau chwarae a chylchoedd meithrin yn cynnig gofal a gweithgareddau ar gyfer plant cyn iddynt fynd i’r ysgol, yn aml am ran o’r diwrnod yn unig. 

Rhaid i unrhyw ddarparwr o wasanaeth ble mae plant dan 12 yn derbyn gofal am gyfnod o ddwy awr neu’n hirach gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW) yn unol â Deddf Plant 1989. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar safonau isafswm oddi wrth CSSIW (dolen yn y safleoedd cysylltiedig).  Mae pob lleoliad ym Mlaenau Gwent yn cael eu hannog i ennill safonau sicrwydd ansawdd trwy’r Cynllun Sgôr Amgylcheddol (ERS) ac mae’r sgorau’n cael eu cyhoeddi mewn amrywiaeth o gyfryngau.   

Bydd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn gallu cynnig cyngor a chyfarwyddyd ar faterion yn ymwneud â gofal plant.  

 
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 

Rhadffôn: 08000 32 33 39 
E-bost: fis@blaenau-gwent.gov.uk
Neges Destun: 07860 025100 

Children at play

Dyletswydd Digonolrwydd Gofal Plant 

Fe osododd Deddf Gofal Plant 2006 ddyletswydd ar Awdurdodau Lleol i sicrhau, cyhyd â’i bod yn rhesymol ymarferol, bod y ddarpariaeth gofal plant yn ddigonol i fodloni anghenion rhieni yn ei ardal. Mae hefyd yn gofyn bod Awdurdodau Lleol yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, darpar rieni a’r sawl gyda chyfrifoldeb rhieni i ofalu am blentyn, yn ymwneud â gofal plant. 

Mae Digonolrwydd Gofal Plant yn cael ei asesu’n llawn bob tair blynedd gan gwblhau Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant gydag Arolwg Blynyddol yn cael ei gynnal i ddiweddaru data cyflenwi (gweld y Dogfennau Cysylltiedig). 

Bydd yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant nesaf yng Ngwanwyn 2025. 

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Tîm Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar a Chwarae

Rhif Ffôn: 01495 355584

Cyfeiriad: Canolfan Plant Integredig Y Cymoedd Canol, High Street, Blaina, Blaenau Gwent, NP13 3BN

Cyfeiriad e-bost: Claire.smith@blaenau-gwent.gov.uk