Chwarae

Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2022

Blaenau Gwent County Borough Council is inviting parents, childcare providers, co-ordinators and those with an interest in childcare locally to comment on the draft Childcare Sufficiency Assessment and Action Plan 2022.

Pob sylw i'w e-bostio yn ôl i Sharon.cargill@blaenau-gwent.gov.uk  erbyn Dydd Mercher 31 Awst 2022.

 

 

Ein nod yw i Flaenau Gwent fod yn Sir ble mae plant yn cael eu gweld fwyfwy y tu allan yn mwynhau’r buddion o chwarae. Mae gennym awyrgylch wych ym Mlaenau Gwent sy’n ffafriol i chwarae plant ac rydym eisiau annog chwarae mewn awyrgylch sy’n gyfeillgar sy’n darparu amser, lle a chaniatâd i blant chwarae. Bydd hyn yn gofyn bod rhieni, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol yn y gymuned yn adnabod bod chwarae yn hynod bwysig ym mywyd cyfredol plant ac ar gyfer eu datblygiad yn y dyfodol. Rydym eisiau hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag ar hawliau plant i chwarae yn eu cymunedau.  

Mae’r Tîm Chwarae yn gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno amrediad eang o gyfleoedd chwarae ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae ein Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn gallu rhoi gwybodaeth gyfredol ar gyfleoedd chwarae a hamdden yng ngwahanol ardaloedd y Fwrdeistref Sirol.  

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 

Rhadffôn: 08000 32 33 39 
E-bost: fis@blaenau-gwent.gov.uk 
Neges Destun: 07860 025100 

Chwarae mewn Ysgolion   

Rydym yn awyddus i gynnig awyrgylchoedd chwarae cyfoethog sy’n bodloni anghenion chwarae plant a phobl ifanc Blaenau-Gwent yn eu hysgolion, at ddibenion y tu mewn i’r ysgol a’r tu allan.  

Mae’r Tîm Chwarae yn cefnogi ysgolion ledled Blaenau Gwent i asesu a datblygu eu cyfleoedd chwarae trwy gyfarwyddyd a darparu hyfforddiant.  

Chwarae yn y Gymuned   

Mae’r Tîm Chwarae yn awyddus i annog cymunedau lleol i ymrwymo’n weithgar gyda chyfleoedd i hyrwyddo chwarae. Mae cyfarwyddyd a hyfforddiant ar gael i ddatblygu syniadau a grwpiau cymunedol. Cysylltwch â’r Swyddog Digonolrwydd Chwarae ar: 01495 355576. 

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Tîm Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar a Chwarae

Rhif Ffôn: 01495 355584

Cyfeiriad: Canolfan Plant Integredig Y Cymoedd Canol, High Street, Blaina, Blaenau Gwent, NP13 3BN

Cyfeiriad e-bost: Claire.smith@blaenau-gwent.gov.uk