Defnyddwyr Gwasanaeth

Beth yw Taliadau Uniongyrchol?

Symiau ariannol yw Taliadau Uniongyrchol sy’n cael eu rhoi i chi, defnyddiwr y gwasanaeth neu’ch cynrychiolydd gan y Cyngor er mwyn i chi allu trefnu a rheoli’ch anghenion gofal a chefnogaeth eich hun, yn achos gofalwr eu hanghenion cefnogaeth, er mwyn cyflawni’ch canlyniadau lles personol.

Pam baswn i’n dewis Taliad Uniongyrchol?

Mae taliadau uniongyrchol yn rhoi’r cyfle i chi ddefnyddio’ch dewis, llais a rheolaeth oherwydd chi yw’r person sy’n penderfynu sut bodlonir eich anghenion gofal a chefnogaeth, neu yn achos gofalwr, byddant yn penderfynu sut bodlonir eu hanghenion cefnogaeth, er mwyn cyflawni canlyniadau lles personol, yn hytrach na gorfod dibynnu ar yr adran gwasanaethau cymdeithasol i wneud hyn drosoch.

Sut ydw i’n gwneud cais am Daliad Uniongyrchol?

Er mwyn pennu a ydych yn gymwys i dderbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol, gan gynnwys taliadau uniongyrchol, bydd gweithiwr gofal cymdeithasol yn cynnal asesiad anghenion i adnabod y canlyniadau rydych chi neu ofalwr am eu bodloni o ddydd i ddydd a pha ofal a chefnogaeth, neu yn achos gofalwr, pa gefnogaeth, gellid cyfrannu at gyflawni’r canlyniadau hynny.

Yn dilyn yr asesiad anghenion, os yw’r gweithiwr gofal cymdeithasol yn nodi eich bod yn gymwys i dderbyn gofal a chefnogaeth, neu yn achos gofalwr, cefnogaeth, er mwyn cyflawni’ch canlyniadau lles personol, bydd addasrwydd taliad uniongyrchol yn cael ei drafod gyda chi ar yr adeg hon ynghyd ag opsiynau o ran pa wasanaethau eraill sydd hefyd ar gael i chi.

Pwy sy’n gymwys i dderbyn Taliadau Uniongyrchol?

Bydd mwyafrif y bobl sydd wedi cael eu nodi fel rhai ag anghenion gofal a chefnogaeth, neu yn achos gofalwr, cefnogaeth, yn gymwys i dderbyn taliad uniongyrchol, fodd bynnag gall fod rhai sefyllfaoedd pan fod rhaid bodloni amodau penodol e.e. gall berson sy’n gaeth i gyffuriau neu alcohol dderbyn taliad uniongyrchol cyhyd â bod modd nodi ‘person addas’ sy’n fodlon rheoli arian y taliadau uniongyrchol a’r cyfrifoldebau yn ymwneud â chyflogaeth ar ran defnyddiwr y gwasanaeth.

Ar gyfer beth gallaf ddefnyddio fy Nhaliadau Uniongyrchol?

Gellir defnyddio Taliadau Uniongyrchol ar gyfer: -

  • Talu rhywun yn uniongyrchol h.y. cynorthwyydd personol
  • Prynu gofal oddi wrth asiantaeth breifat gofrestredig
  • Prynu offer

Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i chi fod yn greadigol wrth benderfynu beth sydd fwyaf addas ar gyfer eich anghenion gofal a chefnogaeth, neu yn achos gofalwr, cefnogaeth, er mwyn cyflawni’ch canlyniadau lles personol. Felly, os oes gennych unrhyw syniadau eraill ar sut gellir defnyddio taliadau uniongyrchol ar eich cyfer, dylech drafod eich syniadau gyda’ch gweithiwr gofal cymdeithasol dynodedig. Gallwch hefyd dewis cael cymysgedd o daliadau uniongyrchol a gwasanaethau wedi’u darparu gan y Cyngor.

Cael mynediad at eich cymuned

Mae taliadau uniongyrchol hefyd yn fodd o’ch helpu i allu cael mynediad at eich cymuned oherwydd efallai byddwch yn penderfynu cyflogi person i fynd â chi i’ch man addoli, i’r llyfrgell, i’r archfarchnad, dosbarthiadau addysg i oedolion neu fynychu gweithgareddau neu ddigwyddiadau eraill.

Beth yw fy nghyfrifoldebau?

Os dewiswch dderbyn taliadau uniongyrchol, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod yr arian a dderbyniwch o’r Cyngor yn cael ei wario ar eich anghenion gofal a chefnogaeth, neu yn achos gofalwr, cefnogaeth, er mwyn cyflawni’ch canlyniadau lles personol. Bydd hefyd angen i chi gadw cofnodion archwiliadwy o sut mae’r arian yn cael ei wario h.y. taflenni cofnodi amser, anfonebau, cyfriflenni, bonion llyfr siec, gwybodaeth yn ymwneud â PAYE ac ati.

Cyflogi person

Os ydych yn penderfynu mai dyma’r opsiwn gorau i chi, efallai bod gennych berson mewn golwg eisoes yr hoffech iddynt fod yn gynorthwyydd personol i chi neu efallai bod angen cymorth arnoch i ddod o hyd i rywun, naill ffordd neu’r llall, gall y tîm taliadau uniongyrchol eich cefnogaeth gyda’r broses recriwtio.

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r DBS yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014, os ydych yn cyflogi cynorthwyydd personol, bydd angen iddynt gael gwiriad DBS a bydd rhaid ei adnewyddu bob 3 blynedd.

A fydd Taliadau Uniongyrchol yn effeithio ar fy mudd-daliadau? Na fyddant

Nid yw Taliadau Uniongyrchol yn effeithio ar eich budd-daliadau o gwbl oherwydd nid ydynt yn cael eu cyfri fel incwm at ddibenion treth. Fodd bynnag, os ydych yn cyflogi person a’u bod ar fudd-daliadau, gall hyn effeithio ar eu budd-daliadau, felly bydd angen iddynt roi gwybod i’r asiantaeth fudd-daliadau berthnasol bod eu hamgylchiadau wedi newid.

A fydd rhaid i mi dalu unrhyw beth?

Os ydych yn derbyn taliadau uniongyrchol, efallai bydd gofyn i chi wneud cyfraniad tuag at gost eich gofal a chefnogaeth. Fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol a chaiff ei gyfrifo yn unol â pholisi codi tâl y Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd angen i swyddog o’r tîm incwm gynnal asesiad ariannol i bennu a oes angen i chi wneud cyfraniad ariannol tuag at gost eich gofal a chefnogaeth ai peidio.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Tîm Taliadau Uniongyrchol
Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys yr Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB

Ffôn: (01495) 355265
E-bost : directpayments@blaenau-gwent-gov.uk

Enw’r Tîm: C2BG 
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent,
Y Ganolfan Ddinesig,
Glynebwy, Gwent,
NP23 6XB

Rhif Ffôn: (01495) 315700
Ffacs: (01495) 353350
Minicom: (01495) 355959
E-bost : info@blaenau-gwent.gov.uk

Ar gyfer atgyfeiriadau:
E-bost : DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk