Gwasanaeth Byw â Cymorth

Gwasanaeth Byw â Chymorth

Mae Gwasanaeth Byw â Chymorth Blaenau Gwent yn rhan o Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent a bu'n weithredol ers 2005.

Ei brif nod yw galluogi pobl gydag anableddau dysgu i fyw mor annibynnol ag sydd modd yn eu cartrefi eu hunain.

Mae gan ein Staff Cymorth y sgiliau, hyfforddiant a gwybodaeth angenrheidiol i gyflawni anghenion unigolion a hyrwyddo eu hannibyniaeth. Maent yn parchu hawliau defnyddwyr gwasanaeth i gyfrinachedd, dewis, urddas a phreifatrwydd.

Rydym yn monitro'n barhaus safonau'r gwasanaeth a gyflenwn a defnyddiwn yr wybodaeth i wella a datblygu gwasanaethau'n barhaus i ddiwallu anghenion pobl Blaenau Gwent.

Caiff gwasanaeth cymorth pob defnyddiwr gwybodaeth eu hadolygu'n gyfnodol a gofynnir iddynt roi adborth ar ba mor dda yr ydym yn cyflawni eu hanghenion.

Anelwn ddarparu gwasanaethau i bobl hŷn, pobl gydag anableddau dysgu/corfforol, colled/nam ar y synhwyrau a phobl gyda phroblemau iechyd meddwl.

Y gwasanaethau a ddarparwn yw:

  • Gofal Personol
  • Domestig / Glanhau
  • Golchi / Stilo Dillad
  • Siopa / Gwaith Tŷ
  • Cyllid / Trefnu Arian
  • Cymdeithasu / Mynychu Apwyntiadau
  • Coginio / Paratoi Bwyd

Mae rhestr fanylach o wasanaethau yn y daflen Byw â Chymorth sydd ar y dudalen Tudalennau Gwybodaeth.

Cafodd staff cymorth eu hyfforddi i weitho gyda defnyddwyr gwasanaeth sydd angen cymorth mwy arbenigol, er enghraifft rywun gyda phroblem iechyd meddwl neu sydd â heriau ymddygiad.

Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn gweithredu polisi codi tâl a dull talu. Caiff hyn ei esbonio i chi a/neu Eiriolydd pan fydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn asesu eich anghenion.

Dylid gwneud unrhyw ymholiadau am gostau Byw â Chymorth i -

Adran Gwasanaethau Cymdeithasol
Adran Cyllid
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
Blaenau Gwent 

Rhif Ffôn: 01495 355276 / 355676 / 356069

Mae gan bob defnyddiwr gwasanaeth hawl i fynegi eu barn. Fe'u gwahoddir i rai adborth ar eu barn o'n gwasanaeth drwy lenwi holiadur blynyddol. Drwy ddadansoddi'r canlyniadau gallwn weld pa mor dda y caiff eich anghenion eu cyflawni.

Mae taflen wybodaeth "Hawl i Gwyno" Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent ynghyd â thaflenni cwynion a chanmoliaeth ar gael yn y dudalen Tudalennau Gwybodaeth.

Os byddwch eisiau gwneud cwyn neu angen gwybodaeth bellach ar eich hawliau, gallwch gysylltu ag un o'r sefydliadau dilynol:

Arolygiaeth Gofal a Gwsanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)

Llywodraeth Cymru
Parc Busnes Rhydycar
Merthyr Tudful
CF48 1NZ

Ffôn: 0300 062 8888
Ffacs: 0300 062 8548

Grŵp Iechyd Lleol

16a Sgwâr y Farchnad
Brynmawr
NP23 4AJ

Gwybodaeth Gyswllt

I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:

  • person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
  • plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â Hyb IAA Gwasanaethau Plant

Ffôn: 01495 315700
E-bost: DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350

Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk

Pencadlys:

Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB

Ffôn: (01495) 354680
Ffacs: (01495) 355285

Tîm Byw â Chymorth

Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB

Ffôn: (01495) 357706

E-bost:  jo.hawkins@blaenau-gwent.gov.uk