Dewis Cartref Gofal

Os byddaf angen help, beth ddylwn ei wneud?

Efallai eich bod wedi cyrraedd amser yn eich bywyd lle na theimlwch y medrwch ymdopi mwyach heb gymorth yn eich cartref eich hunan.  Eich cam cyntaf ddylai fod i gysylltu â ni i drafod eich anghenion.  Bydd gweithiwr cymdeithasol yn ymweld â chi a’ch gofalydd (os oes gennych un) i asesu eich anghenion, a thrafod y dewisiadau sydd ar gael i chi.

Pa fath o ofal wyf i eisiau?

Os oes angen i chi ystyried symud i gartref gofal, mae dau fath, y ddau wedi cofrestru gyda’r Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru:

  • Gofal preswyl: Byddai’r gofal a ddarperir mewn gofal preswyl yn debyg i’r gofal a roddir gan berthynas neu gyfaill gofalgar, gyda chefnogaeth gan eich meddyg teulu neu ardal nyrsio, os oes angen.
  • Gofal nyrsio:  Byddai cartref nyrsio yn darparu gofal na fedrir ond ei roi dan sylw staff nyrsio gyda chymwysterau.

Sut mae dod o hyd i gartref gofal?

Medrwn ddarparu rhestr o’r holl gartrefi gofal cofrestredig yn eich ardal, neu medrech chi/a neu eich teulu ddod o hyd i gartref drwy Age Concern, argymhellion pobl eraill neu’r cyfeiriadur ffôn.

Beth sydd angen i mi wneud nesaf?

Gwnewch yn siwr eich bod yn dod o hyd i gartref sy’n ateb eich anghenion.  Os yn bosibl, ymwelwch â nifer o gartrefi addas gyda’ch teulu a’ch ffrindiau, a siarad gyda staff a phobl yn byw yn y cartref.

Caiff yr holl gartrefi eu harolygu’n rheolaidd gan Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru ac mae eu hadroddiadau ar gael i’r cyhoedd. Gofynnwch i’r cartref am weld copi o’r adroddiad diweddaraf, neu gael copi eich hunan o wefan Safonau Gofal.

Medrech hefyd ddymuno cyfnod prawf i weld yn y cartref i weld os mai dyma’r un iawn i chi.

A fedraf ddewis pa gartref i fynd iddo?

  • Os ydych yn talu am eich lleoliad eich hun, medrwch ddewis pa bynnag gartref a ddymunwch.  Os ydych mewn ysbyty bydd angen i chi ddewis cartref sydd â lleoedd gwag.  Os nad y cartref hwn yw’ch dewis cyntaf, byddwch yn medru trefnu symud maes o law pan ddaw lleoedd ar gael.
  • Os caiff eich lleoliad ei gefnogi gan y gwasanaethau cymdeithasol, rhaid i chi fod wedi cael eich asesu fel bod angen  lleoliad cartref gofal.
  • Gofynnir i chi wneud dewis o dri chartref, ac mae’n rhaid i un ohonynt fod â lleoedd gwag (bydd yn bosibl i chi symud i’ch dewis cyntaf pan ddaw lle yn wag maes o law).
  • Os ydych mewn ysbyty cyn symud i gartref, disgwylir i chi wneud trefniadau eraill os nad yw’ch dewis cyntaf o gartref ar gael.  Cewch eich helpu i ddod o hyd i le arall, ac i symud i’r cartref sydd yn well gennych pan ddaw lle yn wag.

Sut fyddaf yn talu am fy ngofal?

Disgwylir i chi wneud cyfraniad ariannol tuag at gost eich gofal.  Cewch asesiad ariannol ar yr un pryd ag asesiad gofal a chewch eich hysbysu ar eich cyfraniad.  Bydd yr Awdurdod Lleol yn talu hyd at lefel ffi a gytunwyd.  Gall fod yn bosibl i chi symud i gartref drutach os oes gennych rywun arall sy’n barod i gyfrannu’r gost ychwanegol.  Medrwch drafod hyn gyda’ch gweithiwr cymdeithasol.  Os ydych angen gofal nyrsio, bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn telu am elfen nyrsio y gofal, a chewch eich asesu ar gyfer hynny gan Nyrs Asesydd.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:

  • person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
  • plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â Hyb IAA Gwasanaethau Plant

Ffôn: 01495 315700
E-bost: DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350

Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk

Pencadlys:

Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB

Ffôn: (01495) 354680
Ffacs: (01495) 355285