Sut yr ydym wedi helpu

"Popeth am yr Ukulele"

Gwnaed atgyfeiriad i Cysylltwyr Cymunedol gan fod Mr M eisiau ymgysylltu yn y gymuned a chanfu fod y ganolfan ddydd yn iawn iddo ef ond roedd yn ansicr lle medrai fynd na beth i'w wneud

Ymwelais â Mr M yn ei gartref ac fe wnaethom drafod sut y teimlai. Roedd Mr M yn drist ei fod yn rhoi'r gorau i'w waith oherwydd afiechyd a theimlai'n ynysig yn dilyn strôc. Daeth Mr M yn gynyddol gymdeithasol unig ar ôl rhoi'r gorau i'w waith, symud i ardal newydd ac nid oedd ganddo unrhyw gyfeillion yn byw'n agos.

Fe wnaethom ymchwilio hobiau a diddordebau Mr M. Roedd yn glir ei fod yn angerddol am chwarae cerddoriaeth ac yn wych gyda'r ukulele. Dywedodd Mr M y byddai wrth ei fodd yn cwrdd gyda phobl neu grŵp sy'n canu offerynnau cerdd. Roedd Mr M hefyd eisiau colli ychydig o bwysau yr oedd wedi'i fagu yn ystod ei salwch. Roedd Mr M eisiau llenwi ei amser gyda gweithgareddau yn ystod y dydd fel y bydd adref ar gyfer ei deulu i ymweld ag ef ar fin nos. Roedd yn anodd dod o hyd i grwpiau cerdd i weddu i Mr M gan y cynhaliwyd y rhan fwyaf o ddosbarthiadau ar fin nos neu lan y grisiau heb fynediad i'r anabl. Fe wnaethom ddechrau grŵp cerddoriaeth newydd a thrwy ein tîm cyfathrebu fe wnaethom hyd yn oed roi neges ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn gofyn am unrhyw un oedd â diddordeb mewn ymuno â grŵp cerddoriaeth ond ni chafwyd unrhyw ymateb.

Yn y cyfamser, roedd cynllun Gofal Ychwanegol lleol yn cynnal digwyddiad codi arian ac fe wnaethom drefnu i Mr M fynychu a chanu ei offerynnau. Fe wnaeth y preswylwyr a Mr M fwynhau hyn yn fawr. Rhoddodd hyn gyfle gwych i Mr M wneud cyfeillion newydd ac ers hynny cafodd ei wahodd yn ôl i ymuno â boreau coffi a nosweithiau cwis.

Dynodwyd grŵp ukelele yn ystod digwyddiad corfforaethol a thrwy sgwrs fe wnaethom sylwi fod y grŵp yn cwrdd bob wythnos mewn tref gyfagos ac roedd ar agor i aelodau newydd. Es i'r grŵp gyda Mr M a'i gyflwyno i arweinydd y grŵp. Teimlai Mr M yn hyderus i dreulio gweddill yr amser yn y grŵp ar ben ei hun felly ymwelais ag ef y trannoeth i weld os oedd wedi ei fwynhau.

Yna canfu Mr M fod ei drwydded yrru wedi ei diddymu oherwydd ei gyflwr meddygol, a oedd yn newyddion gwael iawn iddo; teimlai ei fod wedi colli ei annibyniaeth. Er ei fod yn teimlo'n ddig a siomedig i ddechrau, canfu Mr M agweddau cadarnhaol mewn defnyddio ei arian ar gyfer tacsis yn hytrach na'i gar. Mynychais y grŵp ukelele yr wythnos ddilynol i weld os oedd aelod arall o'r grŵp oedd yn byw'n agos ac a fyddai'n rhannu lifft. Roedd hyn yn llwyddiannus ac os oedd Mr M yn parhau i fynychu'r dosbarth cerddoriaeth gan rannu lifftiau a chostau cludiant gyda ffrind newydd.

I fynd i'r afael â dymuniadau Mr M i golli'r pwysau yr oedd wedi ei fagu'n ddiweddar. Awgrymais y cynllun atgyfeirio drwy gwasanaethau hamdden ac os byddai ei feddyg teulu yn ei atgyfeirio, byddai Mr M yn cael cefnogaeth gyda chynlluniau deiet, rhaglen ymarfer ac arweiniad drwy'r peiriannau yn y gampfa a dosbarthiadau. Roedd Mr M yn hapus gyda hyn ac ers hynny mae wedi mwynhau mynychu ddwywaith yr wythnos.

Roedd Mr M yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth y prosiect Cysylltwyr Cymunedol gan y teimlai ei fod ar 'ymyl diben iselder' pan gollodd ei fod wedi colli ei annibyniaeth a'i ddiben mewn bywyd.

Mae M yn hapus tu hwnt ei fod wedi gwneud ffrindiau newydd gyda'r un diddordebau ag ef ei hun ac mae wedi dechrau cymdeithasu gyda nhw y tu allan i'r dosbarth ukelele a drefnwyd.

Mae ymgyfraniad Cysylltwyr Cymunedol wedi cefnogi Mr M i ailgysylltu gyda'r gymuned ac mae'n awr yn teimlo'n fwy bodlon gyda'i fywyd.

"Mae'n rhoi rhywbeth i mi edrych ymlaen ato bob wythnos"

Fe ddechreuais sgwrsio gydag aelod o'r cyhoedd, S, a chodi ymwybydiaeth am brosiect Cysylltwyr Cymunedol. Dywedodd S wrthyf nad oedd cof ei mam gystal ag yr arferai fod a'i bod yn aros llawdriniaeth cataract ac yn gyffredinol wedi colli ei hyder dros gyfnod a'i bod ei theulu'n pryderu am hynny. Teimlai S y byddai ei mam, T, yn cael budd o gefnogaeth gan Cysyllwyr Cymunedol a dywedodd y byddai'n cael sgwrs gyda hi ac y byddai'n gwneud atgyfeiriad os byddai'n hapus i wneud hynny.

Trefnais ymweliad cartref gyda T a thrafod beth oedd yn bwysig iddi. Siaradai T yn annwyl am ei theulu ac roedd yn deall ymrwymiadau ei theulu a'i dibyniaeth gynyddol arnynt er nad oes ganddynt gymaint o amser y dyddiau hyn i ymweld gymaint ag yr hoffent.

Ni allai S roi prydau bwyd i T fel yr arferai. Gofynnodd S os gwyddwn am unrhyw wasanaethau/caffres sydd â gwasanaeth dosbarthu dyddiol a rhoddais daflenni am wasanaethau lleol iddi os hoffai gysylltu â nhw.

Oherwydd bod ei golwg yn gwaethygu, roedd T yn methu gyrru mwyach. Gwnaeth hyn iddi deimlo ei bod wedi colli ei hyder ond mae hefyd wedi effeithio ar ei gallu i gymdeithasu'n annibynnol, gan ei bod yn flaenorol yn egniol iawn yn gymdeithasol - gwnaeth hyn i T deimlo'n unig ac ar ben ei hun. Dywedodd T yr hoffai gynyddu ei hyder, gwneud ffrindiau newydd ac ailgysylltu gyda hen ffrindiau.

Esboniais amcanion prosiect Cysylltwyr Cymunedol i gysylltu unigolion gyda grwpiau a gweithgaredd. Roedd T ychydig yn ansicr i ddechrau ond pan ddywedais wrthi am grŵp cyfeillgarwch/cinio yr oeddwn wedi bod ynddo, pa mor gynnes a chyfeillgar yr oedd pobl yno, roedd ganddi ddiddordeb ond yn teimlo'n anghysurus am fynd yno ar ben ei hun. Dywedais T y gallwn ei chefnogi yno ac aros nes y byddai'n teimlo'n gysurus a hyderus i wneud hynny'n annibynnol, byddem yn gwneud y cyfan ar ei phwysau hi - ac roedd yn fodlon gyda hynny. Yr wythnos ddilynol trefnais i gwrdd â T yn ei chartref i'w hebrwng i grŵp cyfeillgarwch lleol. I ddechrau roedd T yn bryderus am fynd ond roedd y ffaith fy mod yn mynd gyda hi yn rhoi cysur iddi.

Ar ôl i ni gyrraedd cafodd T groeso cynnes gan y staff gwirfoddol ac roedd pobl yn bresennol oedd yn ei hadnabod a daethant i gael gwrs. Roedd un o'r menywod wdi adnabod T am flynyddoedd lawer ac roedd yn wirioneddol falch i'w gweld yno. Buont yn sgwrsio am beth amser a roddodd wên ar wyneb Mrs T. Fel yr oeddent yn gadael, gofynnodd cyfaill T iddi os hoffai ymuno â nhw yr wythnos nesaf: roedd yn fodlon iawn derbyn.

Yn ôl adref esboniodd T yn fanwl am ei hen gyfeillgarwch gyda'r fenyw a welsom heddiw. Dywedodd T mor braf oedd mynd allan a chwrdd â phobl gan iddi fod yn teimlo'n isel ers cryn amser. Dywedodd T fod ei chyfaill wedi gwneud iddi deimlo'n gartrefol ac yr hoffai fynd eto. Fe wnaethom drafod y posibilrwydd iddi fynd ar ben ei hun mewn tacsi yr wythnos wedyn, os teimlai'n gysurus byddwn yn cwrdd â hi y tro yma. Atebodd y gallai wneud hynny.

Pan ffoniais S yn nes ymlaen dywedodd ei bod wedi sylwi ar oslef mwy cadarnhaol yn llais ei mam nad oedd wedi ei glywed ers cryn amser. Dywedodd S mor hapus y teimlai pan allai ei mam gofio pobl enwau ac atgofion.

Fe gwrddais â T yr ail dro iddi ymweld â'r grŵp cyfeillgarwch wrth iddi aros i'w ffrind gyrraedd. Cawsom dishgled o de gyda'n gilydd gyda T yn dweud faint yr oedd wedi mwynhau yr wythnos diwethaf ac yn edrych ymlaen at heddiw. Roedd ffrindiau T wedi cyrraedd ac aeth i eistedd atyn nhw, teimlai'n fwy hyderus yng nghwmni pobl eraill a fyddai'n ei hatgoffa pan oedd ei tacsi i fod i gyrraedd i fynd â hi adref.

Nid oedd T yn teimlo'n dda yr wythnos ond yr wythnos wedyn cefnogodd ei merch hi drwy drefnu tacsi iddi fynd yn ôl i'r grŵp cyfeillgarwch. Galwais heibio a gweld bod T yn eistedd gyda grŵp o ffrindiau newydd yn mwynhau dishgled a sgwrsio. Roedd T yn ymateb i'r sgwrs gyfeillgar. Roedd ffrindiau newydd (a hen) T yn gefnogol iawn yn gwneud trefniadau cludiant ar gyfer yr wythnos ddilynol ac yn gwneud yn siŵr fod popeth ganddi cyn iddi adael. Roedd T yn gyfforddus pan adawodd yn y tacsi. Gadewais rai wythnosau fynd heibio cyn mynd i weld T eto i weld sut oedd pethau wedi bod yn mynd ymlaen. Mae T yn parhau i fwynhau mynychu'r grŵp cyfeillgarwch pan mae'n teimlo y gall fynd - mae wedi ailgysylltu â'r gymuned a dywedodd: 'mae'n rhoi rhywbeth i mi edrych ymlaen ato bob wythnos'.

Cysylltwyr Cymunedol - Astudiaeth Achos

Yn fy rôl newydd fel Cysylltwr Cymunedol fe wnes gyfarfod gyda grŵp lleol i hyrwyddo rôl cysylltwyr cymunedol a hefyd i gasglu mwy o wybodaeth am grwpiau a gweithgareddau presennol yn yr ardal leol. Esboniais rôl y prosiect Cysylltwyr Cymunedol sef cefnogi unigolion sy'n gymdeithasol ynysig i gysylltu gyda'u cymuned a chymryd rhan mewn grwpiau neu weithgareddau o'u dewis eu hunain.

Dywedodd A, sydd yn cael adferiad o gyflwr cronig, wrthyf eu bod yn mynd i gyfarfodydd grŵp mewn hosbis lleol yn rheolaidd. Roedd yr unigolion a fynychai'r cyfarfodydd grŵp wedi dod yn gefnogwyr da i'w gilydd ac unwaith iddynt gael mynd adref o'r hosbis, roeddent wedi penderfynu y byddent i gyd yn hoffi parhau i gefnogi ei gilydd, cwrdd yn gymdeithasol a gwneud crefftau i'w gwerthu i elusennau. Roedd y grŵp wedi dod o hyd i Neuadd Eglwys i'w defnyddio'n rhad ac am ddim a dechrau cwrdd bob 2 wythnos. Fodd bynnag oherwydd yr oerfel nid oedd y Neuadd Eglwys yn addas bellach ac roedd yn rhaid i'r grŵp symud gan ei fod yn dechrau effeithio ar eu hiechyd. Roedd aelod grŵp arall, B, wedi canfod ystafell mewn ysgol leol y gallent ei defnyddio, fodd bynnag wrth i amser fynd heibio roedd y grŵp yn cael ei symud o un ystafell i'r llall, gyda'r ystafelloedd yn mynd llai bob tro ac roedd hynny'n amharu ar eu gwneud crefftau. Roedd y grŵp hefyd wedi dechrau cefnogi'r ysgol gydag addysgu'r plant gyda phobi ond yn anffodus dechreuodd y grŵp deimlo nad oedd croeso iddynt ac ni ddymunent ddefnyddio'r ysgol fel man cyfarfod wedyn. Roedd A yn poeni na fyddai aelodau'r grŵp yn medru cynnal eu cyfeillgarwch a chefnogi ei gilydd heb le i gwrdd. Gofynnodd A os gwyddwn am unrhyw le y medrent gwrdd yn rheolaidd i barhau i wneud crefftau a dywedais y byddwn yn eu cefnogi i chwiio am leoliadau posibl. Parhaodd y Cysylltwyr Cymunedol i'w cyflwyno eu hunain ac esbonio eu rolau i wahanol grwpiau, timau a thai gwarchod ac wrth wneud hynny dynodais ddau leoliad posibl i'r grŵp i gwrdd, y ddau yn rhad ac am ddim: ystafell gymunedol mewn ysgol a safle byw â chymorth. Gan ei bod yn hanner tymor nid oedd ymateb gan yr ysgol, fodd bynnag roedd rheolwr y cynllun y safle byw â chymorth yn frwdfrydig iawn i'r grŵp ddefnyddio'r ystafell eistedd gymunol a'r ystafell grefftau yno, yr unig amod oedd y gallai preswylwyr ymuno â'r grŵp pe byddent yn mynd i mewn i'r ystafell.

Cysylltais ag A a B a dweud wrthynt am fy nghanfyddiadau hyd yma. Teimlent y byddai'r ardaloedd cymunol yn y cynllun Gofal Ychwanegol yn ddelfrydol a gwnaethom drefniadau i gwrdd yno yr wythnos ddilynol.

Cefais gyfarfod gyda B, a'r rheolwr Gofal Ychwanegol yn gynnar yr wythnos wedyn ac arhosais i gwrdd â gweddill y grŵp pan oedd y rheolwr yn dangos B o amgylch y safle. Roedd y grŵp yn ddiolchgar iawn ein bod wedi eu cefnogi i ganfod rhywle canolog iddynt i gyd ei fynychu oedd yn braf, twym a gyda chyfleusterau gwych.

Mae'r grŵp wedi cwrdd bob wythnos ers eu hymweliad cyntaf. Maent yn mwynhau dishgled o de neu goffi cyn mynd i'r ystafell grefftau gymunol. Mae preswylwyr y safle wedi dechrau cymdeithasu gyda'r grŵp ac yn gwneud crefftau gyda'i gilydd, fydd yn helpu i godi arian ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol yn y safle. Mae'r cysylltiad yma wedi cefnogi'r grŵp i gynnal cyfeillgarwch drwy gwrdd yn rheolaidd mewn amgylchedd lle maent yn hapus; heb y gefnogaeth yma roedd y grŵp mewn risg o golli'r cyfeillgarwch a'r gefnogaeth yma - sefyllfa nad oedd neb ohonynt eisiau meddwl amdani.

Mae'r cysylltiad hefyd wedi rhoi cyfle gwych i breswylwyr fynychu a chymryd rhan wrth wneud crefftau, rhywbeth y maent yn ei fwynhau yn fawr gan fod cyllid wedi dod i ben yn y safle ar gyfer gweithgareddau wedi'u trefnu yn yr ystafell grefftau. Mae aelodau'r grŵp yn rhannu cyfeillgarwch gyda'r preswylwyr ac roedd hyn yn gysylltiad cadarnhaol iawn i bawb.

Drwy gefnogi grŵp bychan, rydym hefyd wedi cefnogi cymuned.

Gwybodaeth Gyswllt

Cysylltwyr Cymunedol 

Ffôn: 01495 315700

Ebost: communityconnectors@blaenau-gwent.gov.uk
DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk