Tîm Adnoddau Cymunedol

Mae Tîm Adnoddau  Cymunedol Blaenau Gwent yn wasanaeth ar y cyd a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent. Mae'r Tîm Adnoddau Cymunedol yn darparu help i oedolion (dros 18) oed sy'n byw ym Mlaenau Gwent ac sydd angen cymorth i aros yn annibynnol, o fewn eu cartrefi eu hunain.

Mae'r Tîm Adnoddau Cymunedol yn cynnig gwasanaeth gwell sy'n sicrhau fod unigolion yn derbyn yr ymyriad cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir, gan y gweithiwr proffesiynol cywir. Mae'n symleiddio'r broses drwy gydlynu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r Tîm Adnoddau Cymunedol yn cynnwys:

  • Ymgynghorydd Gofal Canolraddol a Gwasanaeth Nyrsio Ymateb Cyflym
  • Gwasanaeth Ailalluogi
  • Gwasanaeth Codymau
  • Rhyddhau o Ysbyty a Gwaith Cymdeithasol
  • Cysylltwyr Cymunedol
  • Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol cymunedol yn cynnwys - technoleg gynorthwyol/teleofal, cyngor ar nam ar y synhwyrau, addasiadau ac offer cartref a chodi a chario.

Ar y foment dim ond gan weithwyr proffesiynol drwy Un Pwynt Mynediad Rhaglen Eiddilwch Gwent y gellir derbyn atgyfeiriadau ar gyfer -

  • Ymgynghorydd Gofal Canolraddol a Gwasanaeth Nyrsio Ymateb Cyflym
  • Gwasanaeth Ailalluogi
  • Gwasanaeth Codymau

Fodd bynnag, ar gyfer popeth arall cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion 315700.

Gwybodaeth Gyswllt

I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:

  • person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
  • plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â hyb IAA Gwasanaethau Plant

Ffôn: 01495 315700
E-bost: DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350

Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk

Pencadlys:

Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB