Ymgeisio am fathodyn

Gallwch ymgeisio ar-lein, neu yn un o'r Hybiau Cymunedol yn bersonol.

Ymgeisio ar-lein am fathodyn glas (ar gov.uk)

Cysylltwch â C2BG ar 01495 311556 am help a gwybodaeth.

Unwaith i ni dderbyn eich cais, gofynnir ichi aros i dderbyn ymateb gennym ac i beidio â phostio unrhyw wybodaeth bersonol oherwydd ni fedrwn dderbyn cyfrifoldeb dros unrhyw eitemau sy’n cael eu colli neu ei difrodi yn y post.

Prawf adnabod

Rhaid i chi ddarparu un o’r mathau canlynol o’r dulliau adnabod, a rhaid iddo gael ei wirio gan berson sydd wedi’ch adnabod am o leiaf 2 flynedd ac nad sy’n aelod o’r teulu neu’n ffrind:

  • Tystysgrif geni neu fabwysiadu
  • Tystysgrif partneriaeth sifil/diddymiad
  • Tystysgrif priodas/ysgariad
  • Pasbort cyfredol
  • Trwydded yrru ddilys  

Prawf o gyfeiriad

Rhaid i chi ddarparu copi o un o’r canlynol fel prawf o’ch cyfeiriad:

  • Llythyr o gadarnhad o’r gwasanaethau cymdeithasol
  • Bil treth y cyngor wedi’i dyddio o fewn y 12 mis diwethaf
  • Trwydded yrru ddilys

Rydym hefyd angen llun diweddar, main pasbort. Rhaid i’r llun fod o’r un safon â’r sawl sy’n cael eu defnyddio mewn pasbortau a rhaid ysgrifennu’ch enw yn glir ar y cefn

Pa dystiolaeth ydw i’n gallu darparu i gefnogi fy nghais?

Prawf o gymhwysedd. Mae’r rhain yn wahanol ar gyfer cymhwysedd awtomatig ac yn ôl disgresiwn ac mae esboniad ohonynt ym Meini Prawf Cymhwysedd y Bathodyn Glas Llywodraeth Cymru.

Does dim tâl ar gyfer y bathodyn glas cyntaf a gyhoeddir i bobl sy’n byw’n barhaol yng Nghymru.

Adnewyddiadau

Rhaid adnewyddu bathodynnau bob tair blynedd.

Gwybodaeth Gyswllt

C2BG
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Adran Bathodyn Glas
Y Swyddfeydd Cyffredinol
Heol Gwaith Dur
Glynebwy
NP23 6DN