Baeau Parcio Pobl Anabl

Beth yw baeau parcio?

Mae baeau parcio pobl anabl yn ardaloedd dynodedig ar gyfer parcio y tu allan neu’n agos at gartref person anabl.

Mae’r gair “Anabl” wedi ei ysgrifennu ar y ffordd rhwng y llinellau gwyn ar y bae.

Ar gyfer pwy maent?

Maent i’w defnyddio gan unrhyw berson sy’n arddangos bathodyn car person anabl (bathodyn glas).

Pwy all wneud cais am fae?

Er mwyn cymhwyso am fae parcio person anabl, rhaid i chi fedru cyflawni’r holl feini prawf: 

  • Bod yn yrrwr y car, os nad oes amgylchiadau eithriadol.
  • Defnyddiwch gadair olwyn yn barhaol.
  • Defnyddio cadair olwyn ar sail barhaol.
  • Bod heb fynediad i gyfleusterau oddi ar y ffordd neu barcio.

Beth sy’n digwydd os gwnaf gais?

Gofynnir i chi gwblhau datganiad yn ymwneud â’r cwestiynau blaenorol.

Bydd angen i Beiriannydd a Syrfëwr y Fwrdeisdref Sirol angen i weld os medrir darparu’r bae yn ddiogel. Mae’n rhaid i hyn roi ystyriaeth i reoliadau traffig wrth wneud penderfyniad am leoliad y bae parcio.

Gallai fod angen tystiolaeth feddygol er mwyn hwyluso’n hasesiad mewn achosion eithriadol.

Beth sy’n digwydd os nad wyf yn hapus gyda’r penderfyniad?

Nid oes unrhyw hawliau apelio

Gwybodaeth Gyswllt

I gael gwybodaeth, cyngor neu gymorth, neu i wneud atgyfeiriad neu roi adroddiad am brydeorn yng nghyswllt:

  • person 18 oed neu drosodd 
  • plentyn neu berson ifanc

 

Ffôn: 01495 311556
E-bost : Info@blaenau-gwent.gov.uk

Blaenau Gwent County Borough Council
The General Offices
Steelworks Road
Ebbw Vale
NP23 6DN