Therapi Galwedigaethol

Rôl therapydd galwedigaethol cymunedol

Mae Therapyddion Galwedigaethol Cymunedol yma i weithio gyda chi, i'ch helpu i fod mor annibynnol ag sydd modd, am mor hir ag sydd modd. Gallwn roi:

  • Cyngor ar weithgareddau bob dydd megis gwisgo, mynd i mewn ac allan o'r bath, eistedd lawr a chodi o gadair ac yn y blaen.
  • Rhoi cymorth a chyngor ymarferol i ofalwyr i'w galluogi i barhau i ofalu am unigolion yn ddiogel, o fewn amgylchedd eu cartref.

Er mwyn eich helpu i fod mor annibynnol ag sydd modd, lle'n briodol, byddwn yn gweithio gydag eraill e.e. gweithwyr iechyd proffesiynol, swyddogion tai, asiantaethau gofal a gweithwyr cymdeithasol.

Beth mae therapyddion galwedigaethol cymunedol yn ei ddarparu?

Byddwn yn ymweld â chi yn eich cartref eich hun ac yn siarad gyda chi, eich teulu /neu eich gofalwr neu ofalwyr am sut y gallwn eich helpu i oresgyn rhai o'r anawsterau yr ydych yn eu profi.

Byddwn yn gweithio gyda chi i ganfod yr hyn y gallwch ei wneud; sut y gallwn eich helpu i un ai wella yn y pethau a gewch yn anodd neu gael gymorth neu offer fydd hefyd yn eich helpu.

I sicrhau eich bod yn derbyn asesiad cyflawn o'ch anghenion, gallwn fod angen peth gwybodaeth am eich cyflwr meddygol a, gyda'ch caniatad chi, gall fod angen i ni gysylltu â'ch Meddyg Teulu neu Ymgynghorydd.

Gallwn ddarparu unrhyw un o'r dilynol:

  • Cyngor a gwybodaeth ar ddulliau eraill o wneud tasgau
  • Offer i'w osod yn eich cartref eich hun
  • a chyfarwyddyd ar sut i'w ddefnyddio.
  • Cefnogaeth ar wedd argymhellion i'r Adran Tai berthnasol am addasiadau i'ch cartref (e.e. rampiau i roi mynediad cadair olwyn).

Y system atgyfeirio

Gall unrhyw un wneud atgyfeiriad i'r Tîm Therapi Galwedigaethol Cymunedol drwy gysylltu â'r system ddyletswydd ar C2BG ar (01495) 315700.

Pa mor hir fydd yn rhaid i mi aros am asesiad therapi galwedigaethol?

Er mwyn trin y nifer uchel o geisiadau am asesiadau Therapi Galwedigaethol, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i'r ceisiadau hynny sydd â'r angen mwyaf cymhleth a brys am help.

Mae'n bwysig fod y person sy'n gwneud yr atgyfeiriad yn rhoi cymaint o wybodaeth ag sydd modd i'r swyddog dyletswydd. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn ymateb priodol, o fewn amserlen a gytunwyd yn ôl eich anghenion.

Pan dderbyniwn y cais, byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich anawsterau a threfnu ymweliad atoch os yn briodol.

Gwybodaeth Gyswllt

I gael gwybodaeth, cyngor neu gymorth, neu i wneud atgyfeiriad neu roi adroddiad am brydeorn yng nghyswllt:

  • person 18 oed neu drosodd cysylltwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
  • plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â Hyb IAA Gwasanaethau Plant

Ffôn: 01495 315700
E-bost : DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350

Ar gyfer ymholiadau gwybodaeth gyffredinol:
E-bost : info@blaenau-gwent.gov.uk

Pencadlys:
Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB

Ffôn: 01495 354680
Ffacs: 01495 355285