Rhoi hysbysiad priodas neu bartneriaeth sifil

Cyn priodi neu gofrestru eich partneriaeth sifil, mae'n rhaid i'r naill a'r llall ohonoch roi hysbysiad yn bersonol yn eich Swyddfa Gofrestru leol, lle bynnag y byddwch yn cynnal eich seremoni. Os ydych yn byw ym Mlaenau Gwent, ffoniwch 01495 353374 i drefnu apwyntiad os gwelwch yn dda.

Lle dylwn fynd am yr apwyntiad?

Gallwch fynychu'r Swyddfa Gofrestru i roi hysbysiad priodas neu bartneriaeth sifil. Canfod manylion parcio ac amserau agor swyddfa gofrestru.

Pryd mae'n rhaid i ni roi hysbysiad?

Bydd angen i chi fod wedi byw ym Mlaenau Gwent am o leiaf 8 diwrnod cyn y gallwch roi hysbysiad. Ar ôl i'r naill a'r llall ohonoch roi hysbysiad, mae'n rhaid i chi aros am o leiaf 28 diwrnod cyn y gellir cynnal eich seremoni. Mewn cyfnodau prysur gall fod yn rhaid aros 2 i 4 wythnos am apwyntiad felly gofynnir i chi sicrhau eich bod yn caniatau digon o amser.

Am ba mor hir mae'n hysbysiad yn ddilys?

Mae hysbysiad yn ddilys am 1 flynedd, felly dim ond am hyd at 1 flwyddyn cyn eich seremoni y gallwch roi hysbysiad.

Dogfennau y dylech ddod â nhw gyda chi pan fyddwch yn rhoi hysbysiad o briodas neu bartneriaeth sifil

Pan wnewch apwyntiad i roi hysbysiad, bydd y cofrestrydd yn esbonio pa ddogfennau y dylech ddod gyda chi. Caiff y dogfennau hyn eu gosod yn gyfreithiol felly'n aml ni fydd dogfennau eraill yn dderbyiol. Efallai na fyddwch yn medru rhoi rhybudd cyfreithiol os na ddangoswch y dogfennau gofynnol felly mae'n rhaid trafod hyn gyda'r Cofrestrydd Goruchwylio cyn i chi fynychu'r swyddfa gofrestru. Y dogfennau sydd eu hangen yw:

  • Pasbort
  • Tystysgrif geni
  • Gweithred unran
  • Archddyfarniad terfynol
  • Trwydded yrru
  • Tystiolaeth o gyfeiriad (bil cyfleustod)
  • Bil Treth Gyngor

Faint yw'r gost?

Bydd angen talu ffi hysbysiad o £35.00 y person.