Cofrestru Marwolaeth

O 25 Mawrth 2022 bydd nawr yn angenrheidiol i chi wneud apwyntiad gyda'r Cofrestrydd i gofrestru marwolaeth, ni allwn gofrestru marwolaeth dros y ffôn o'r dyddiad hwn ymlaen. Cysylltwch â'r Cofrestrydd ar 01495 353372 i wneud apwyntiad.

Mae gwybodaeth yma am sut y gallwch gofrestru marwolaeth a pha wybodaeth y bydd angen i chi ddod gyda chi i'ch apwyntiad.

I gofrestru marwolaeth ym Mlaenau Gwent, dylech gasglu'r dystysgrif feddygol gan y meddyg neu ysbyty yna ffonio 01495 353374 i drefnu apwyntiad.

Gofynnir i chi nodi fod amserlen statudol o 5 diwrnod i gofrestru marwolaeth

Lle dylwn fynd ar gyfer yr apwyntiad?

Gallwch fynychu'r Swyddfa Gofrestru yn Nhŷ Bedwellte. Lleoliad, manylion parcio ac oriau agor y swyddfa gofrestru.

Gallwch hefyd gofrestru marwolaeth mewn unrhyw Swyddfa Gofrestru arall yng Nghymru neu Loegr drwy ddatganiad. Bydd y Cofrestrydd yn anfon y manylion ar eich rhan i'r Swyddfa Gofrestru berthnasol, dylid nodi y gall hyn oedi'r angladd.

Pwy all gofrestru marwolaeth?

  • Perthynas i'r ymadawedig
  • Person oedd yn bresennol adeg y farwolaeth
  • Person sy'n trefnu'r angladd (nid yr ymgymerwr).

Faint fydd yn rhaid i mi ei dalu?

Bydd y Cofrestrydd yn rhoi copïau o'r dystysgrif farwolaeth lawn am gost o £11 yr un.

Gall fod angen tystysgrifau ar gyfer:

  • Profiannaeth neu lythyrau gweinyddu
  • Cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu
  • Pensiynau preifat
  • Cwmnïau preifat
  • Cyfreithwyr

Beth ddylwn ddod gyda chi?

Mae'n rhaid i chi ddod â'r dystysgrif feddygol a gyhoeddwyd gan y meddyg. Heb y dystysgrif yma ni all y Cofrestrydd gofrestru'r farwolaeth. Os hysbyswyd y farwolaeth i Swyddfa'r Crwner, byddant yn eich cynghori beth i'w wneud. Mae hefyd yn ddefnyddiol dod â thystysgrif genedigaeth neu basport yr ymadawedig i helpu gwirio sillafu, tystysgrif priodas (os yn berthnasol)  cherdyn meddygol. Hefyd gall y Cofrestrydd gynnig y gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith lle gallwn hysbysu nifer o adrannau llywodraeth am y farwolaeth. Gofynnir i  chi ddod â rhif yswiriant cenedlaethol, bathodyn glas (os yn berthnasol) a thrwydded yrru yr ymadawedig.

Beth sydd angen i'r Cofrestrydd ei wybod am yr ymadawedig?

  • Dyddiad a man marwolaeth
  • Dyddiad a man genedigaeth
  • Enw llawn ac os oedd yr ymadawedig yn fenyw briod, y cyfenw/enw teuluol a ddefnyddiwyd cyn iddi briodi.
  • Eu galwedigaeth
  • Eu cyfeiriad arferol
  • Os oedd yr ymadawedig yn briod neu mewn partneriaeth sifil enw llawn, dyddiad geni a galwedigaeth y priod neu bartner sifil
  • Manylion unrhyw bensiwn sector cyhoeddus - er enghraifft gwasanaethau sifil neu lluoedd arfog.

 

 

Pan fydd y cofrestriad wedi’i gwblhau, bydd y cofrestrydd yn gofyn i chi wirio fod yr holl wybodaeth yn gywir cyn llofnodi’r gofrestr. Dylech wirio’r wybodaeth yn ofalus cyn llofnodi. Unwaith y bydd y gofrestr wedi’i llofnodi ni fydd y cofrestrydd bob amser yn medru cywiro unrhyw gamgymeriadau ar unwaith a gall fod yn rhaid gwneud cais i’r Cofrestrydd Cyffredinol am ganiatâd i gywiro.

Pa ddogfennau fyddaf i yn eu cael?

'Ffurflen werdd' i drefnu'r angladd. Bydd angen i chi roi hyn i'r ymgymerwyr. Os cafodd y farwolaeth ei chyfeirio at y crwner, gall fod eisoes fod wedi rhoi'r ffurflen yma i'r ymgymerwyr.

Ffurflen BD8 i hysbysu'r Adran Gwaith a Phensiwn am unrhyw bensiwn gwladol a budd-daliadau yn ymwneud â'r ymadawedig.

Llythyr cadarnhau Dweud Wrthym Unwaith

Gallwch brynu tystysgrifau geni am ffi o £11 yr un