Cofrestru marw-enedigaeth

Mae gwybodaeth yma ar sut y gallwch gofrestru marw-enedigaeth a pha wybodaeth y dylech ddod â hi gyda chi i'ch apwyntiad.

Os ydych yn dioddef marw-enedigaeth ym Mlaenau Gwent, ffoniwch 01495 353374 i drefnu apwyntiad blaenoriaeth sy'n gyfleus i chi os gwelwch yn dda.

Ble dylwn fynd am yr apwyntiad?

Gallwch fynychu'r Swyddfa Gofrestru yn Nhŷ Bedwellte i gofrestru marw-enedigaeth. Canfod manylion cyswllt, lleoliad, manylion parcio ac oriau agor y Swyddfa Gofrestru.

Pwy all gofrestru marw-enedigaeth?

Os yw'r rhieni yn briod â'i gilydd:

  • Un ai fam neu dad y baban

Os nad yw'r rhieni yn briod â'i gilydd:

  • Y fam
  • Y fam a'r tad gyda'i gilydd

Dylid nodi os nad yw'r rhieni yn briod â'i gilydd adeg yr enedigaeth mai dim ond os yw'r tad yn dod gyda'r fam i gofrestru'r farw-enedigaeth y gallwn roi manylion y tad ar y dystysgrif genedigaeth. Os dymunwch i fanylion y tad gael eu rhoi ac ni all ddod i'r apwyntiad, ffoniwch ni ar 01495 353374 os gwelwch yn dda.

Faint yw'r gost?

Bydd y Cofrestrydd yn rhoi tystysgrif cofrestru i chi am ddim (bydd hyn yn dangos enw llawn, rhyw, dyddiad geni, ardal geni ac enw'r hysbysydd) i chi. Bydd y Cofrestrydd hefyd yn rhoi copi o'r dystysgrif marw-enedigaeth lawn i chi, fydd yn costio £4.00.

Beth ddylwn i ddod gyda fi?

Mae'n rhaid i chi ddod â'r dystysgrif feddygol a gyhoeddir gan y meddyg/bydwraig. Ni all y Cofrestrydd gofrestru'r farw-enedigaeth heb y dystysgrif yma. Os hysbyswyd Swyddfa'r Crwner am y farw-enedigaeth, byddant yn eich cynghori beth i'w wneud.

Pa ddogfennau eraill fyddaf i'n eu cael?

Bydd y Cofrestrydd yn rhoi 'Ffurflen Wen 118' i chi. Mae hyn ar gyfer trefnu'r angladd. Bydd angen ei rhoi i'r ymgymerwyr. Os  cyfeiriwyd y farw-enedigaeth at y crwner, gall fod wedi rhoi'r ffurflen yma i'r ymgymerwr eisoes.