Cofrestru genedigaeth

Yma gallwch ganfod gwybodaeth ar pwy, sut a ble y gallwch gofrestru genedigaeth, a pha wybodaeth y bydd angen i chi ddod gyda chi i'ch apwyntiad.

Mae'r gyfraith yn dweud fod yn rhaid i chi gofrestru genedigaeth o fewn 42 diwrnod.

Os ganwyd eich baban ym Mlaenau Gwent, ffoniwch 01495 355374 i drefnu apwyntiad i gofrestru'r enedigaeth.

Gallwch hefyd fynychu'r Swyddfa Gofrestru ym Mlaenau Gwent os cafodd eich baban ei eni mewn man arall a rhoi Datganiad Genedigaeth. Bydd y Cofrestrydd wedyn yn anfon y manylion ar eich rhan i'r ardal lle ganwyd y baban. Dylid nodi y bydd oedi cyn derbyn Tystysgrifau Geni.

Ble dylwn i fynd ar gyfer yr apwyntiad?

Gallwch fynychu'r Swyddfa Gofrestru i gofrestru genedigaeth. Lleoliad, manylion parcio ac amserau agor swyddfa gofrestru.

Pwy all gofrestru genedigaeth?

Un ai fam neu dad y baban os yw'r rhieni yn briod â'i gilydd.

Os nad yw'r rhieni yn briod â'i gilydd

  • Y fam
  • Y fam a'r tad gyda'i gilydd

Dylid nodi os nad yw'r rhieni yn briod â'i gilydd adeg yr enedigaeth mai dim ond os yw'r tad yn dod gyda'r fam i gofrestru'r enedigaeth y gallwn roi manylion y tad ar y dystysgrif genedigaeth.

Dogfennau y dylech ddod gyda chi i gofrestru genedigaeth

Dylech ddod ag o leiaf 1 math o adnabyddiaeth gyda chi pan ewch i'r Swyddfa Gofrestru. Gallwch ddod â:

  • Pasbort
  • Tystygrif genedigaeth
  • Gweithred unran
  • Trwydded yrru
  • Tystiolaeth o gyfeiriad (bil cyfleustod)
  • Bil Treth Gyngor
  • Tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil

A oes cost am gofrestru genedigaeth?

Ni chodir tâl am y cofrestru. Byddwch yn derbyn tystysgrif genedigaeth fer am ddim yn dangos enwau cyntaf, cyfenw, rhyw a dyddiad geni'r plentyn.

Am ffi o £11 gallwch gael copi o'r dystysgrif enedigaeth lawn sydd hefyd yn cynnwys manylion y rhiant/rhieni.