Safleoedd Ymgeisiol

Diweddariad Safleoedd Ymgeisiol


Gwahoddodd y Cyngor berchnogion tir, datblygwyr a’r cyhoedd i gyflwyno ‘safleoedd ymgeisiol’ i gael eu hystyried ar gyfer eu datblygu, ailddatblygu neu eu diogelu yng nghynllun Datblygu Lleol Newydd Blaenau Gwent am gyfnod o 10 wythnos rhwng 15 Tachwedd 2018 a 24 Ionawr 2019. Cyflwynwyd cyfanswm o 107 safle ymgeisiol ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau, yn cynnwys preswyl, cyflogaeth, hamdden a thwristiaeth ac ynni adnewyddadwy. Yn derbyn y galwad hwn fe wnaethom dderbyn 7 safle arall a gynhwysir yn yr adendwm, gan ddod â chyfanswm nifer y safleoedd ymgeisiol a dderbyniwyd yn ystod y galwad cyntaf i 114.

Ym mis Rhagfyr 2020, cynhaliodd y Cyngor ail alwad am safleoedd ymgeisiol. Fodd bynnag, oherwydd cyfyngiadau cyfnod clo gyda pandemig Covid-19, gohiriwyd y cam hwn ar 20 Rhagfyr 2020. Gallodd y Cyngor ailddechrau’r ail alwad o ddydd Mawrth 30 Mawrth 2021 i ddydd Mawrth 18 Mai 2021. Cyflwynwyd cyfanswm o 19 safle yn ystod yr ail alwad o safleoedd ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau yn cynnwys preswyl, newidiadau ffiniau aneddiadau, trafnidiaeth ac ynni adnewyddadwy. Caiff y safleoedd hyn eu cynnwys yn ail adendwm y gofrestr o safleoedd ymgeisiol. Yn unol â’r rheoliadau, cyhoeddwyd y safleoedd yn y Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol.

Canfyddiadau o Asesiadau a Gynhaliwyd ar y Safleoedd Ymgeisiol a Gyflwynwyd

Cynhaliodd y Cyngor asesiadau cadarn o’r ddogn gyntaf o safleoedd sydd wedi cynnwys asesiadau mewnol gyda thîm seilwaith gwyrdd ac adeiledig ac iechyd amgylcheddol y Cyngor. Rydym wrthi yn y broses o asesu’r 19 safle a gyflwynwyd yn yr ail alwad.

I weld crynodeb o ganlyniadau’r gwaith asesu mewnol a wnaethpwyd ar gyfer pob safle, paratowyd dogfen Asesiadau Canfyddiadau o’r Safleoedd Ymgeisiol a gellir ei lawrlwytho ‎here.‎