Ecoleg a Chynllunio

Beth mae’r Gwasanaeth Ecoleg a Bioamrywiaeth yn gwneud

Fel perchennog tir, corff rheoleiddio a sefydliad arwain yn y gymuned ehangach, mae gan y Cyngor amrediad o gyfrifoldebau gyda’r nod o amddiffyn a gwella bioamrywiaeth.

Cwmpas y Gwasanaeth Ecolegol a Bioamrywiaeth

  1. Darparu cyngor er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth ar draws Swyddogaethau a Gwasanaethau’r Cyngor
  2. Cyfrannu at waith ac amcanion y Bartneriaeth Bioamrywiaeth gan gynnwys creu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol a’i roi ar waith.
  3. Cynghori ar Gynllunio Camau Gweithredu Bioamrywiaeth ledled Gwasanaethau’r Cyngor, yn enwedig tir dan berchnogaeth y Cyngor yn unol â dyletswydd y Cyngor o dan Ddeddf Deddf yr Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
  4.  yfrannu at Bartneriaeth Safleoedd Bywyd Gwyllt, gan gynnwys dethol, addasu a rheoli Ardaloedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SINCs)
  5.  Darparu cyngor ar faterion Rheoli Datblygiad yn ymwneud â:
    • Ceisiadau Cynllunio (gan gynnwys cyngor cyn ymgeisio)
    • Asesiadau o'r effaith amgylcheddol a Datganiadau Amgylcheddol
    • Cytundebau S106/Rhwymedigaethau Cynllunio
    • Gorfodaeth
    • Apeliadau Cynllunio
  6. Ymateb i ymgynghoriadau strategol gan Adrannau a Chyrff Llywodraeth Leol, e.e. Adnoddau Naturiol Cymru/Llywodraeth Cymru
  7. Darparu mewnbwn arbenigol ar gynllunio strategol megis Cynllun Datblygu Lleol, Isadeiledd Gwyrdd a Chynllunio Trafnidiaeth
  8. Darparu gwasanaeth gwybodaeth a chyngor cyffredinol i’r Cyngor, ymgynghorwyr, datblygwyr, busnesau a’r cyhoedd yn gyffredinol.
  9. Rhoi prosiectau yn ymwneud â Bioamrywiaeth ar waith ledled y Fwrdeistref yn gysylltiedig â’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol.

Gwybodaeth Gyswllt