Cadwraeth Natur

Beth yw Bioamrywiaeth?

Mae bioamrywiaeth yn golygu’r ‘amrywiaeth o bethau byw’. Mae’n cynnwys y cyfoeth o blanhigion gwyllt ac anifeiliaid o’n hamgylch ynghyd â’r cynefinoedd sy’n eu cefnogi.

Pwysigrwydd Bioamrywiaeth

  • Gwerth cynhenid popeth byw
  • Dangosydd allweddol o ddatblygiad cynaliadwy
  • Hanfodol er mwyn cynnal ansawdd bywyd gan ein darparu gyda bwyd, dŵr, ocsigen, dillad, lleihau llygredd a gwella’n iechyd a lles
  • Nifer o fuddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd

Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i amddiffyn a gwella bioamrywiaeth o fewn Blaenau Gwent. Cyflawnir hyn trwy roi’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol ar gyfer Blaenau Gwent ar waith mewn partneriaeth ag ystod eang o fudiadau ac unigolion.

Mae amddiffyn Bioamrywiaeth Blaenau Gwent yn gyfrifoldeb ar nid yn unig y Cyngor neu grwpiau amgylcheddol; mae angen ymrwymiad gan bob un ohonom!

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt