Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn

Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Elfen Tai Credyd Cynhwysol, ond yn dal i'w chael yn galed i dalu eich rhent, gallwch wneud cais am Daliad Tai yn ôl Disgresiwn.

Rhoddir Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn fel mesur tymor byr i helpu pobl tra'u bod yn gwneud ymdrechion i ddatrys eu hanawsterau a byddwn yn targedu taliadau at y rhai yn yr angen mwyaf.

Gallwch wneud cais am Daliad Tai yn ôl Disgresiwn i helpu talu eich rhent os:

  • ydych yn derbyn Budd-dal Tai yn barod
  • yw eich Budd-dal Tai yn is na'r rhent llawn llai unrhyw wasanaethau na ellir talu Budd-dal Tai amdano megis costau gwresogi neu drethi dŵr
  • oes amgylchiadau arbennig yn golygu na allwch dalu'r gwahaniaeth rhwng eich budd-dal a'ch rhent llawn

Sut i wneud cais am Daliad Tai yn ôl Disgresiwn

Rhowch gymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl i ni os gwelwch yn dda i'n helpu i ddeall pam y gallech fod yn gymwys am Daliad Tai yn ôl Disgresiwn.

Pryd y gallwn wneud Taliad Tai yn ôl Disgresiwn

  • Os oes gennych gostau ychwanegol oherwydd amgylchiadau arbennig fel rhywun sy'n byw ar eich aelwyd yn yr ysbyty
  • Os ydych yn profi caledi dros dro oherwydd colli swydd neu fudd-daliadau ar ôl dychwelyd i waith
  • Os ydych mewn risg o golli eich cartref lle teimlwn y byddai dyfarnu Taliad Tai yn ôl Disgresiwn yn atal hyn
  • Os cafodd eich Budd-dal Tai ei ostwng oherwydd meini prawf maint sector cymdeithasol (y dreth ystafelloedd gwely) a'ch bod angen help gyda chost symud i gartref llai.

Pan na allwn wneud taliad:

Nid yw'r taliad ychwanegol ar gael ar gyfer y dibenion dilynol:

  • Help gyda'r Dreth Gyngor
  • Ar gyfer costau dŵr, prydau bwyd, tanwydd neu gostau gwasanaeth eraill anghymwys a gynhwysir yn eich rent
  • Llenwi unrhyw fwlch mewn Budd-dal Tai sy'n digwydd oherwydd adennill gordaliad
  • Talu rhent sy'n amlwg yn ormodol
  • Talu am gynnydd yn eich rhent oherwydd ôl-ddyled rhent heb ei dalu
  • Talu am gost sancsiynau neilltuol a gostyngiadau mewn budd-dal e.e. cosb atal twyll
  • Os nad yw'ch Credyd Cynhwysol yn cynnwys Elfen Tai

Canfod os ydych yn llwyddiannus: os penderfynwn y gallwn wneud taliad byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud faint y byddwch yn ei dderbyn ac am ba mor hir. Os penderfynwn na allwn wneud taliad, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn dweud wrthych beth yw'r rhesymau am ein penderfyniad.

Gallwch ofyn i ni edrych ar y mater eto os ydych yn anghytuno gyda'r penderfyniad. Bydd angen i chi wneud hyn mewn ysgrifen o fewn un mis o ddyddiad y llythyr penderfyniad yn nodi'n glir pam eich bod yn anghytuno.

Ni allwch apelio i'r gwasanaeth apelio am benderfyniad Taliad Tai ar Ddisgresiwn.

Mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthym yn sych os yw'ch amgylchiadau yn newid. Ewch i'n hadran newid amgylchiadau i gael mwy o fanylion.

Gwybodaeth Gyswllt

Budd-dal Tai
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad E-bost: benefits@blaenau-gwent.gov.uk