Cap Budd-daliadau

 O Dachwedd 7 2016, swm y cap budd-daliad ydy:

  • £257.69 yr wythnos os ydych yn berson sengl heb blant yn byw gyda chi, NEU
  • £384.62 yr wythnos os ydych yn rhan o gwpl (gyda neu heb blant yn byw gyda chi) neu'n rhiant unigol gyda phlant dibynnol.

Os yw'r cap budd-daliadau yn effeithio arnoch bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â chi ac yn esbonio beth allai'r cap ei olygu i chi.

Ar hyn o bryd caiff y cap ei weithredu drwy dynnu arian o daliadau Budd-dal Tai felly ni chewch eich capio os nad ydych yn derbyn Budd-dal Tai. Bydd hyn yn newid pan gyflwynir y Credyd Cynhwysol yn llawn.

Ewch i GOV.UK - Gwybodaeth a chyfrifwr Cap Budd-daliadau i gael mwy o wybodaeth

Pa fudd-daliadau y mae'r cap yn eu hystyried?

  • Lwfans Profedigaeth/Lwfans Rhieni Gweddw/Lwfans Mam
  • Budd-dal Plant
  • Credyd Treth Plant
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) heblaw lle cynhwysir Elfen Cymorth ESA
  • Budd-dal Tai (os na thelir am hynny ar gyfer Llety Eithriedig â Chymorth - ffoniwch ni i holi)
  • Budd-dal Analluedd
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (seiliedig ar gyfraniadau a seiliedig ar incwm)
  • Lwfans Mamolaeth
  • Lwfans Anabledd Difrifol (SDA)
  • Pensiwn Gweddw

Ni chaiff unrhyw fudd-daliadau nac incwm arall nad ydynt ar y rhestr uchod eu hystyried wrth gyfrif lefel y cap.

Pryd nad yw'r cap yn weithredol?

Ni fydd y cap yn weithredol os ydych o oedran pensiwn neu'n derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau dilynol:

  • Taliad Annibyniaeth Personol (gynt Lwfans Byw Anabledd)
  • Lwfans Gweini
  • Budd-daliadau Anafiadau Diwydiannol
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, os telir gyda'r elfen cymorth
  • Lwfans Gofalwr
  • Pensiwn Gweddw Rhyfel
  • Pensiwns Anabledd Rhyfel
  • Taliadau Cynllun Iawndal Lluoedd Arfog
  • Taliad Annibyniaeth Lluoedd Arfog
  • Credyd Treth Gwaith - mae hyn yn cynnwys aelwydydd sy'n gweithio nifer ddigonol o oriau i fod yn gymwys am Gredyd Treth Gwaith ond nad yw eu henillion yn ddigon fel bod ganddynt hawl iddo.
  • Lwfans Gwarcheidwad

Beth yw'r 'cyfnod gras'?

Bydd 'cyfnod gras' o 39 wythnos o ddyddiad cyntaf diweithdra pan weithredir y cap, hyd yn oed y byddai fel arfer.

Caniateir hyn pan:

  • oeddech chi neu'ch partner (neu gyn-bartner diweddar) mewn cyflogaeth daledig neu hunangyflogaeth am 50 wythnos allan o'r 52 wythnos yn union cyn i chi orffen gwaith, ac
  • na wnaethoch chi na'ch partner (neu gyn-bartner diweddar) hawlio un o'r dilynol am unrhyw gyfnod, pa bynnag mor fach, mewn mwy na dwy o'r wythnosau hynny
    • Lwfans Ceisio Gwaith
    • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
    • Cymhorthdal Incwm

Cewch hefyd eich trin fel bod mewn cyflogaeth os ydych ar unrhyw un o'r dilynol:

  • absenoldeb mamolaeth ac yn derbyn Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)
  • absenoldeb tadolaeth
  • absenoldeb mabwysiadu
  • yn derbyn tâl salwch statudol

Beth os wyf yn credu mod i wedi fy eithrio?

Os dywedir wrthych y bydd cap ar eich budd-daliadau ond y credwch fod yr eithriad yma neu unrhyw eithriad arall o'r cap yn berthnasol mae'n RHAID i chi gysylltu â ni ar unwaith fel y gallwn holi'r Adran Gwaith a Phensiynau i weld os ydych yn gywir.

Gwybodaeth Gyswllt

Budd-dal Tai
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad E-bost: benefits@blaenau-gwent.gov.uk