Stragegaeth a Chynllun Rheoli Risg Llifogydd

Strategaeth a chynllun ar gyfer delio gyda rheolaeth risg llifogydd ym Mlaenau Gwent.

Yn dilyn y llifogydd sylweddol yn 2007, rhoddodd y Llywodraeth bwerau newydd i awdurdodau lleol i helpu rheoli risg llifogydd lleol mewn ffordd fwy cydlynol.

Mae Deddf Rheoli Dŵr Llifogydd 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau arwain wrth gydlynu rheoli risg llifogydd ar gyfer dŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr llai yn eu hardal. Mae llifogydd prif afonydd yn parhau'n gyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent wedi paratoi strategaeth rheoli risg llifogydd lleol a chynllun rheoli risg llifogydd.

Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd

Mae'r strategaeth anelu i ostwng effaith risg llifogydd ar bobl, busnesau a'r amgylchedd.

Mae crynodeb y Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol hefyd ar gael. 

Cynllun Rheoli Risg Llifogydd

Mae Cynllun Rheoli Risg Llifogydd yn amlinellu sut y caiff risgiau llifogydd a ddynodwyd eu rheoli a'u lliniaru dros y 6 mlynedd nesaf.

Cynhaliwyd Asesiad Amgylcheddol Strategol ar y strategaeth a'r cynllun rheoli risg llifogydd.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Enw'r Tîm: Seilwaith
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad: Gwasanaethau Technegol
Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent
Swyddfeydd Bwrdeistrefol, Canolfan Dinesig, Glyn Ebwy, Gwent NP23 6XB

E-bost:  info@blaenau-gwent.gov.uk