Fforwm Ymgysylltu

Os oes gennych ddiddordeb mewn dweud eich dweud ar y materion sy'n effeithio arnoch chi a'ch cymuned yna efallai yr hoffech ymuno â'n Panel Dinasyddion, Lleisiau ein Cymoedd neu Fforwm 50+.

E-bostiwch: PPS@blaenau-gwent.gov.uk am fwy o wybodaeth ac i gymryd rhan.

WHO o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar

Mae Cyngor Blaenau Gwent a’i bartneriaid yn ceisio cael barn pobl hŷn ym Mlaenau Gwent i gynorthwyo gyda’i gais i ymuno â Rhwydwaith Bydeang y WHO o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar.

Mae arnom angen eich help i ddweud wrthym beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen rhywfaint o waith o hyd i wella pethau i bobl hŷn sy’n byw yn y fwrdeistref. Gan ddefnyddio’r  maes a fydd yn ffurfio ein cais, dywedwch wrthym beth sy’n gweithio a beth nad yw’n gweithio.

  • Mannau Awyr Agored ac Adeiladau Cyhoeddus
  • Cymdogaeth
  • Trafnidiaeth
  • Cymorth Cymunedol a Gwasanaethau Iechyd
  • Cyfathrebu a Gwybodaeth
  • Cyfranogiad Dinesig a Chyflogaeth
  • Cyfranogiad Cymdeithasol, Parch a Chynhwysiant Cymdeithasol

Cwblhewch yr arolwg yma, os gwelwch yn dda:

Panel Dinasyddion Blaenau Gwent

Fel aelod o'n Panel Dinasyddion ymgynghorir â chi ar ystod eang o faterion sy'n effeithio ar Flaenau Gwent. Cysylltir â chi o bryd i'w gilydd i ofyn am eich barn ar amrywiaeth o faterion drwy e-bost, ac yn bersonol os dymunwch. Drwy fod yn aelod gallwch wneud gwahaniaeth go iawn i'ch ardal a gwella'r gwasanaethau yr ydych chi a'ch cymuned yn dibynnu arnyn nhw.

Fforwm 50+

Mae'r Fforwm 50+ yn rhad ac am ddim i'w fynychu, yn anwleidyddol ac yn agored i bawb. Mae'n gweithredu fel llais ar y cyd i bobl 50 oed a hŷn sy'n byw, gweithio neu'n ymweld â Blaenau Gwent yn aml. Mae'n hyrwyddo buddiannau pobl 50 oed neu'n hŷn ac yn rhoi cyfle i bobl ddod at ei gilydd, cymdeithasu a thrafod pethau sydd bwysicaf i chi. Ein nod yw codi ymwybyddiaeth o'r cyfraniad y mae pobl hŷn yn ei wneud i'n cymdeithas a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i bobl 50+ oed. Mae'r fforwm yn cwrdd yn rheolaidd ac mae'n cynnwys siaradwyr gwadd, gweithgareddau a dadleuon.

Lleisiau Ein Cymoedd

Mae Lleisiau Ein Cymoedd yn fforwm cydraddoldeb sy'n ceisio codi proffil yr agenda cydraddoldeb a darparu cefnogaeth i bobl sy'n cael eu gwarchod gan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010). Mae gan y fforwm aelodaeth amrywiol yn cynnwys grwpiau ac asiantaethau lleol yn ogystal ag aelodau o'r cyhoedd. Mae'r fforwm yn darparu cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgynghori, yn ogystal â chydweithio â sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector i gefnogi prosiectau allweddol fel ail-ddylunio gwasanaethau.

 

Dogfennau Cysylltiedig