Gwneud penderfyniadau gan y Cyngor

Cyfarfodydd Llawn y Cyngor:

Lle mae pob un o’r 33 o Gynghorwyr yn cwrdd i gymeradwyo unrhyw bolisïau newydd a chynlluniau gwario mawr. Mae’r cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal bob chwe wythnos, gyda chyfarfodydd cyngor arbennig yn cael eu cynnal weithiau er mwyn ymdrin â materion penodol. 

Cabinet:

Yn ymarferol y Cabinet yw corff gwneud penderfyniadau’r Cyngor ac mae’n gyfrifol am wneud penderfyniadau sy’n gydnaws â pholisïau cyffredinol a chyllideb y Cyngor. Os yw’n dymuno gwneud penderfyniad sydd tu fas i’r gyllideb neu’r fframwaith polisi, mae’n rhaid atgyfeirio hyn i’r Cyngor yn ei gyfanrwydd. Bydd y Cabinet yn cyflawni holl swyddogethau’r Awdurdod Lleol nad ydynt yn gyfrifoldeb unrhyw ran arall o’r Awdurdod Lleol, p’un ai dan y gyfraith neu dan y Cyfansoddiad.

Pwyllgorau Craffu:

Mae’r Pwyllgorau hyn yn cynnwys 9 Cynghorydd a’u rôl yw adolygu a chraffu penderfyniadau a wnaed gan y Cabinet, gwneud argymhellion ar gyfer newid yn seiliedig ar eu hymchwil a chynorthwyo’r Cyngor a’r Cabinet wrth ddatblygu ei gyllideb a fframwaith polisi. Mae gan y cyngor bum pwyllgor craffu ar hyn o bryd (a fanylir isod) sydd gyda’i gilydd yn goruchwylio pum portffolio’r Cyngor. Caiff y cyfarfodydd hyn eu cynnal mewn cylch chwe wythnos ar hyn o bryd.

  • Pwyllgor Craffu Corfforaethol A Pherfformiad
  • Pwyllgor Craffu Pobl
  • Pwyllgor Craffu Lle
  • Pwyllgor Craffu Partneriaethau

Galw Mewn:

Gall penderfyniadau a wnaed ond na chafodd eu gweithredu gan y Cabinet gael eu Galw Mewn pan ystyrir bod dilysrwydd penderfyniadau’r Cabinet yn amhriodol ac y cânt eu herio. Os yw’r Cabinet yn gwneud penderfyniad sy’n achosi consyrn mawr, gall isafswm o bump aelod o’r Cyngor wneud cais i benderfyniad gael ei ailystyried gan y Cabinet (er fod angen i’r Swyddog Monitro gymeradwyo dilysrwydd galw mewn cyn y gellir ailystyried penderfyniad).

Pwyllgorau Rheoleiddio:

Mae’r Pwyllgor Cynllunio yn cynnwys 14 Aelod ac mae’n cwrdd yn fisol ac mae gan y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol 11 Aelod a hefyd yn cwrdd yn fisol. Mae’r Pwyllgorau hyn yn cyflawni swyddogaethau penodol a roddir iddynt dan bwerau dirprwyedig.