Cymryd Rhan mewn Democratiaeth

Croesewir y cyhoedd i gymryd rhan mewn cyfarfodydd a gellir gwneud hynny yn y dulliau dilynol:

Gall aelodau o’r cyhoedd fynychu holl gyfarfodydd y Cyngor

Gall aelodau o’r cyhoedd fynychu cyfarfodydd o’r Cyngor, Cabinet, Pwyllgorau Craffu, Pwyllgor Cynllunio, Pwyllgor Trwyddedu, Pwyllgor Archwilio, Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a’r Pwyllgor Safonau, heblaw lle mae’n debygol y caiff gwybodaeth gyfrinachol neu eithriedig ei datgelu.

Gall aelodau o’r cyhoedd weld dogfennau’r Cyngor

Gall aelodau o’r cyhoedd weld agendâu cyfarfodydd a phapurau cefndir yr holl gyfarfodydd a nodir uchod a, lle’n briodol, weld unrhyw gofnodion o benderfyniadau ar wnaed, heblaw lle mae’n debygol y caiff gwybodaeth gyfrinachol neu eithriedig ei datgelu. Gellir gweld yr holl ddogfennau sydd ar gael yn y Cyfeiriadur Pwyllgorau.

Gall aelodau o’r cyhoedd edrych ar gyfarfodydd ar-lein

Mae’r cyngor yn darlledu rhai o gyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet, y Pwyllgorau Craffu a Rheoleiddiol ar y rhyngrwyd.

Gallwch edrych ar gyfarfodydd byw a lawrlwytho dogfennau perthnasol tebyg i adroddiadau, cynlluniau neu gyflwyniadau. Mae recordiadau ar gael i’w gweld yn rhad ac am ddim. Gallwch eu gweld yn fyw neu yn lle hynny gallech weld cyfarfodydd y gorffennol drwy ddefnyddio’r llyfrgell o’r archif recordiadau.

Gall aelodau o’r cyhoedd siarad yn rhai o gyfarfodydd y Cyngor

Gall aelodau o’r cyhoedd fynychu cyfarfodydd o’r Pwyllgor Cynllunio a siarad os ydynt wedi gwrthwynebu mewn ysgrifen i gais cynllunio a gaiff ei ystyried. Gall aelodau o’r cyhoedd siarad mewn gwrandawiadau o’r Panel Trwyddedu os ydynt wedi gwrthwynebu mewn ysgrifen i gais Trwyddedu sy’n cael ei ystyried. Gall aelodau o’r cyhoedd hefyd siarad mewn cyfarfodydd o’r Pwyllgor Craffu ond dim ond drwy wahoddiad y Cadeirydd.

Gall aelodau o’r cyhoedd edrych ar Raglenni Gwaith

Gall aelodau o’r cyhoedd archwilio blaenraglenni gwaith y Pwyllgorau. Gall Pwyllgorau Craffu wahodd pobl a sefydliadau i roi sylwadau ar y ffordd y caiff pethau eu gwneud ar hyn o bryd a sut y gellid eu gwella. Un o’r heriau mwyaf ar gyfer pwyllgorau craffu yw cael mwy o ddiddordeb yn y broses, drwy ddangos y gall craffu effeithlon wneud gwahaniaeth.

Blaenraglenni Gwaith Pwyllgorau Craffu

 

  • Blaenraglen Gwaith Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a Pherfformiad
  • Blaenraglen Gwaith Pwyllgor Craffu Pobl
  • Blaenraglen Gwaith Pwyllgor Craffu Lle
  • Blaenraglen Gwaith Pwyllgor Partneriaethau

Blaenraglen Gwaith y Cabinet

  • Blaenraglen Gwaith y Cabinet 

Blaenraglen Gwaith y Cyngor

  • Blaenraglen Gwaith y Cyngor

Gall aelodau o’r cyhoedd ofyn cwestiynau mewn cyfarfodydd Cyngor

Gall aelodau o’r cyhoedd ofyn cwestiynau i Aelodau’r Cyngor mewn cyfarfodydd cyffredinol o’r Cyngor. Dim ond os y rhoddwyd hysbysiad drwy ei gyflwyno mewn ysgrifen neu drwy bost electronig i’r Prif Weithredwr dim hwyrach na chanol-dydd, dri diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod y gellir gofyn cwestiwn. Mae’n rhaid i bob cwestiwn roi enw a chyfeiriad y sawl sy’n gofyn y cwestiwn. Ni all unrhyw un unigolyn gyflwyno mwy nag un cwestiwn mewn unrhyw un cyfarfod ac ni ellir gofyn mwy nag un cwestiwn o’r fath ar ran un sefydliad.

Caiff unrhyw gwestiwn na ellir eu trin yn ystod y cyfarfod eu trin drwy ateb ysgrifenedig.

I gael mwy o wybodaeth am gwestiwn y cyhoedd mewn cyfarfodydd ym Mlaenau Gwent cysylltwch â’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar committee.services@blaenau-gwent.gov.uk

Gall aelodau o’r cyhoedd gyflwyno deisebau mewn cyfarfodydd o’r Cyngor

Mae gan y Cyngor Brotocol Deisebau y gellir ei ddefnyddio pan fo amgylchiadau lle mae’r cyhoedd yn teimlo’n gryf am fater a’u bod yn dymuno cyfathrebu eu sylwadau’n uniongyrchol i’r Cyngor drwy ddeiseb.

Drwy gyflwyno deiseb, dylech yn gyntaf wirio yn gyntaf gyda’ch cynghorydd lleol neu gyda’r Cyngor i weld os ydynt eisoes yn gweithredu ar eich pryderon ac mai’r Cyngor yw’r corff mwyaf addas i dderbyn eich deiseb, gan y gall deisebau weithio fod yn fwy addas i gael eu hystyried gan gorff cyhoeddus arall.

Protocol Deisebau

Gallwch anfon deisebau yn electronig at:- committee.services@blaenau-gwent.gov.uk

neu gyflwyno deisebau i:-

Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Swyddfeydd Cyffredinol
Heol Gwaith Dur
Glynebwy
NP23 6AA

neu gysylltu â’r Adran Gwasanaethau Democrataidd ar 01495 356139 i wneud trefniadau i gyflwyno deiseb.

Pwyllgorau Llywodraethiant ac Archwilio
Penodi Person Lleyg

Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn dymuno penodi Personau Lleyg i’w Pwyllgorau Llywodraethiant ac Archwilio.

Mae’r pwyllgorau statudol hyn yn elfen allweddol o fframwaith llywodraethiant a rhaglen gwella awdurdod lleol. Diben y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yw darparu sicrwydd annibynnol ar ddigonolrwydd ac effeithlonrwydd y fframwaith rheoli risg, amgylchedd rheoli mewnol, asesu perfformiad, trin cwynion ac integriti adroddiadau ariannol a phrosesau llywodraethiant. Drwy archwilio archwiliad mewnol ac allanol mae’n gwneud cyfraniad pwysig i sicrhau fod trefniadau sicrwydd effeithlon yn eu lle.

Mae llawer o awdurdodau lleol yn ystyried defnyddio cyfarfodydd o bell ar gyfer eu Pwyllgorau Llywodraethiant ac Archwilio yn y dyfodol. Mae hyn yn gwneud cyfranogiad Person Lleyg o fewn Pwyllgorau Llywodraethiant ac Archwilio yn rhwyddach.

Mae pwyllgorau yn cwrdd nifer o weithiau y flwyddyn ac mae personau lleyg (Aelodau annibynnol) yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol am hynny.

Caiff cydnabyddiaeth ariannol ei dalu yn unol gyda’r graddau a benderfynwyd gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, gweler yr adroddiad a atodir (adran 9, tudalennau 30-31).
WG42164 Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (llyw.cymru)

Dogfennau Cysylltiedig