Trwydded Gweithredydd Cerbyd Hurio Preifat

Beth yw Trwydded Gweithredydd Cerbyd Hurio Preifat?

Mae unrhyw un sy'n dymuno dechrau busnes tacsi, ac sy'n bwriadu darparu cerbydau hurio preifat a cherbydau hacni, angen trwydded gweithredydd. Lle bynnag y bwriadwch weithredu'r busnes ohono, gall fod arnoch angen caniatâd cynllunio gan adran cynllunio'r Cyngor a chodir ffi ar hynny. Byddwch angen caniatâd y landlord os ydych yn rhentu'r eiddo. I benderfynu os y gellir rhoi trwydded, mae'n rhaid cynnal gwiriad cofnodion troseddol ac mae ffi'n daladwy ar gyfer hynny hefyd. Caiff trwyddedau eu rhoi ar amodau e.e. mae'n rhaid cadw cofnodion o bob archeb ac mae'n rhaid i gofnodion fod ar gael am chwe mis a chael eu dangos i swyddog o'r Cyngor neu swyddog heddlu os gofynnir am hynny. Caiff trwyddedau eu cyhoeddi fel arfer am uchafswm cyfnod o bum mlynedd.

Pa ddeddfwriaeth sy'n rheoli Trwyddedau Gweithredydd Cerbydau Hurio Preifat?

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976

Pwy all wneud cais?

Gall unrhyw un dros 18 oed wneud cais am drwydded gweithredu cerbyd hurio preifat.

Beth yw'r broses gais?

Mae'n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno'r dogfennau dilynol fel rhan o'r broses gais:-

  • Ffurflen gais wedi ei llenwi gan bob parti
  • Ffi trwydded
  • Trwydded yrru
  • Gwiriad sylfaenol y Gwasaanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
  • Tystiolaeth o ganiatâd cytnllunio neu gadarnhad nad oes angen caniatâd cynllunio
  • Tystiolaeth o ganiatâd landlord

Cynghorir ymgeiswyr i gysylltu â'r Tîm Trwyddedu a gwneud trefniadau i gyflwyno'r dogfennau uchod. Os yw'r DBS/ Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu yn canfod collfarnau, yna gall y mater gael ei gyfeirio i Bwyllgor Trwyddedu y Cyngor i'w benderfynu, fydd yn penderfynu os dylid rhoi trwydded.

A allaf wneud cais ar-lein?

Na. Ni chaiff ceisiadau ar-lein eu derbyn ar gyfer y math yma o drwydded.

Faint yw'r gost?

Ffi'r drwydded yw £340 ar gyfer ceisiadau newydd a £312 ar gyfer ceisiadau adnewyddu

Pa mor hir fydd yn ei gymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig?

Mae'r broses gais fel arfer rhwng un a dwy wythnos.

Ni fydd caniatâd dealledig ar y trwyddedau hyn h.y. os na chlywch unrhyw beth o fewn y cyfnod penodol, ni allwch dybio'n awtomatig y cytunwyd ar y cais.

Cwynion defnyddwyr

Os oes gennych gŵyn am unrhyw fater yn ymwneud â gweithgareddau tacsi gyda thrwydded neu heb drwydded, cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu ar 01495 355485.