Trwydded Safle

Beth yw trwydded safle?

Mae unrhyw un dros 18 oed sy’n dymuno neu’n cynnig cynnal busnes sy’n cynnwys defnyddio safle ar gyfer gweithgareddau trwydddedadwy h.y. darparu adloniant wedi’i reoleiddio, lluniaeth hwyr y nos neu werthu alcohol, angen trwydded safle.

Fel arfer dyfernir trwydded am gyfnod amhenodol ond medrir ei dyfarnu am gyfnod sefydlog a gallir ei hadolygu ar unrhyw adeg. Mae’n weithredol nes y caiff y drwydded ei diddymu, gohirio neu ildio. Medrir hefyd ddyfarnu trwydded safle ar gyfer digwyddiadau mawr unigol, er enghraifft pan fo digwyddiad yn debygol o ddenu dros 500 o bobl.

Rhaid i unrhyw safle lle gwerthir alcohol dan drwydded safle enwebu goruchwyliwr safle dynodedig. Bydd enw’r goruchwyliwr ar y ffurflen gais wreiddiol a rhaid iddo/iddi lenwi ffurflen gydsynio. Mae’n gyfrifol am awdurdodi gwerthu alcohol yn y safle. Mae’n rhaid i Oruchwyliwr Safle Dynodedig fod â thrwydded bersonol.

Gall neuaddau cymunedol a neuaddau pentref wneud cais i’r Cyngor i ddatgymhwyo’r gofyniad am Oruchwyliwr Safle Dynodedig cyn belled â bod y pwyllgor rheoli yn defnyddio’r er budd y gymuned.

Pa ddeddfwriaeth sy’n rheoli trwyddedau safle?

Deddf Trwyddedu 2003 

Pwy all wneud cais?

Gall unrhyw un o’r dilynol wneud cais am drwydded:-

  • unigolyn/unigolion dros 18 oed
  • cwmni cyfyngedig, partneriaeth, gymdeithas heb ymgorffori neu arall (e.e. corfforaeth statudol)
  • clwb cydnabyddedig
  • elusen
  • perchennog sefydliad addysgol
  • corff gwasanaeth iechyd
  • person sydd wedi cofrestru dan Ran 2 y Ddeddf Safonau Gofal 2000 (c14) yng nghyswllt ysbyty annibynnol
  • person sydd wedi cofrestru dan Bennod 2 Rhan 1 y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 yng nghyswllt cynnal gweithgaredd a gaiff ei reoleiddio (o fewn ystyr y Rhan hwnnw) mewn ysbyty annibynnol yn Lloegr
  • prif swyddog heddlu yn Lloegr a Chymru
  • unrhyw un yn gwneud swyddogaeth a weithredir yn rhinwedd uchelfraint Ei Mawrhydi

Beth yw’r broses gais?

Wrth wneud cais am drwydded safle, mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno, i’r Awdurdod Trwyddedu:-

  • y ffurflen gais berthnasol yn cynnwys yr amserlen gweithredu
  • cynllun o’r safle
  • y ffi perthnasol
  • ffurflen gydsynio wedi’i llenwi gan y Goruchwyliwr Safle Dynodedig os yw’r cais yn cynnwys cyflenwi alcohol

Dylai’r amserlen gweithredu gynnwys manylion:-

  • y gweithgareddau trwyddedadwy
  • amserau cynnal y gweithgareddau
  • unrhyw adegau eraill pan fydd y safle ar agor i’r cyhoedd
  • yn achos trwydded gyfyngedig, y cyfnod y mae angen trwydded amdano
  • enw’r goruchwyliwr safle dynodedig
  • p’un ai yw’r alcohol a werthir ar gyfer ei yfed ar neu oddi ar y safle neu’r ddau
  • y camau y cynigir eu cymryd i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd anfon copïau o’r cais at yr holl Awdurdodau Cyfrifol. Yn ychwanegol, mae’n rhaid iddynt hysbysebu’r cais drwy roi hysbysiad glas yn ffenestr eu safle a hysbyseb yn y papur newydd lleol.

Bydd cyfnod ymgynghori o 28 ddiwrnod ar gyfer ceisiadau newydd a cheisiadau amrywiad pan y gall awdurdodau cyfrifol a phartïon â diddordeb roi sylwadau. Os derbynnir sylwadau perthnasol yng nghyswllt y cais, bydd Is-bwyllgor Trwyddedu’r Cyngor yn cynnal gwrandawiad i benderfynu arno. Os na dderbynnir sylwadau perthnasol, caiff y drwydded ei dyfarnu a’i chyhoeddi.

Beth yw ‘Awdurdod Cyfrifol’ a ‘Pharti â Diddordeb’?

Awdurdod cyfrifol yw un o’r dilynol:-

  • Awdurdod heddlu
  • Awdurdod tân
  • Awdurdod Cynllunio lleol
  • Awdurdod Safonau Masnachu lleol
  • Awdurdod Gwasanaethau Cymdeithasol lleol
  • Awdurdod Iechyd a Diogelwch
  • Awdurdod mordwyo lleol, yng nghyswllt llongau’n unig.

Parti sydd â diddordeb yw:

  • Person sy’n byw yng nghyffiniau’r safle
  • Corff yn cynrychioli pobl sy’n byw yn y cyffiniau hynny
  • Person sy’n ymwneud â busnes yn y cyffiniau hynny
  • Corff yn cynrychioli pobl sy’n ymwneud â busnesau o’r fath
  • Aelod Etholedig

A allaf wneud cais ar-lein?

Medrir cyflwyno cais ar-lein yma.

Medrwch hefyd:-

 
Faint fydd y gost?

Mae ffioedd yn seiliedig ar werth trethadwy annedd a chaiff gwerthoedd trethiannol eu rhannu yn 5 band, A i E. Mae’r ffi sy’n daladwy am dystysgrif yn dibynnu ar ba fand y mae adeilad ynddo. Codir ffi blynyddol hefyd.
Ni fydd unrhyw ffi yn daladwy am gais ar gyfer sefydliad addysgol, megis ysgol, coleg ac ati, cyhyd ag y caiff darpariaeth yr adloniant a gaiff ei reoleiddio ei wneud dros ac ar ran y sefydliad addysgol neu neuadd eglwys, capel neu adeilad tebyg arall neu neuadd gymunedol, neuadd plwyf neu unrhyw adeilad arall tebyg. Yn achos safleoedd ym Mandiau D ac E, lle defnyddir y safle yn unig neu’n bennaf ar gyfer cyflenwi alcohol i’w yfed ar y safle, mae ffi lluosydd yn daladwy.
 

 GWERTH
TRETHIANNOL

 0 to £4,300

  £4,301 to £33,000

 £33,001 to £87,000

 £87,001 to £125,000

£125,001 

 BAND

 A

 B

 C

 D

 E

 CAIS

 £100

 £190

 £315

 £450

 £635

 FFI BLYNYDDOL

 £70

 £180

 £295

 £320

 £350

 AMRYWIAD

 £100

 £190

 £315

 £450

 £635

 MÂN AMRYWIAD

 £89

 £89

 £89

 £89

 £89

 LLUOSYDD

 N/A

 N/A

 N/A

 £900

 £1905

 

D.S. Yn achos safle sy’n cael ei adeiladu ond heb ei gwblhau eto, na phennwyd y gwerth trethiannol ar ei gyfer, bydd ffioedd Band C yn berthnasol. Lle mae nifer y personau a ganiateir ar y safle yn fwy na 5,000, bydd y ffioedd ychwanegol a ffioedd blynyddol dilynol yn weithredol:

 

 NIFER PERSONAU  FFI YCHWANEGOL  FFI FLYNYDDOL
 5,000 to 9,999  £1,000  £500
 10,000 to 14,999  £2,000  £1,000
 15,000 to 19,999  £4,000  £2,000
 20,000 to 29,999  £8,000  £4,000
 30,000 to 39,999  £16,000  £8,000
 40,000 to 49,999  £24,000  £12,000
 50,000 to 59,999  £32,000  £16,000
 60,000 to 69,999  £40,000  £20,000
 70,000 to 79,999  £48,000  £24,000
 80,000 to 89,999  £56,000  £28,000
 90,000 and over  £64,000  £32,000

 

Pa mor hir fydd yn ei gymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn weithredol?Y cyfnod ymgynghori ar gyfer y cais yw 28 diwrnod. Os na dderbynnir sylwadau yn ystod y cyfnod, yna bydd cydsyniad dealledig yn weithredol. Mewn geiriau, eraill, bernir fod y cais wedi ei roddi. Fodd bynnag, os derbynnir sylwadau, yna nid yw cydsyniad dealledig yn weithredol. Mae’n rhaid i’r Cyngor alw gwrandawiad, os oes angen, i benderfynu ar y cais, o fewn 20 diwrnod cais ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori 28 diwrnod. Mae’n rhaid i’r Cyngor ystyried yr holl sylwadau a phenderfynu os dylid rhoi’r dystysgrif gan ei fod er diddordeb y cyhoedd i brosesu cais yn llawn cyn ei roi. Os na chlywch am y cais gan y Cyngor o fewn 56 diwrnod o’i gyflwyno, medrwch gysylltu â ni yma. 

A fedraf apelio os gwrthodir fy nghais? 

Gallwch, fe allwch apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor i Lys Ynadon, o fewn 21 diwrnod o gael eu hysbysu o’r penderfyniad yn ysgrifenedig. Medrwch apelio os rhoddir tystysgrif ond nad ydych yn hapus gyda’r amodau a roddwyd ac yn erbyn diddymu tystysgrif. Gall parti sydd â diddordeb neu awdurdod cyfreithiol a wnaeth sylwadau perthnasol i gais apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor neu unrhyw amodau a osodwyd, i’r Llys Ynadon, o fewn 21 diwrnod o gael eu hysbysu am y penderfyniad. 

Cwynion defnyddwyr

Gall parti â diddordeb neu awdurdod cyfrifol wneud cais i’r Cyngor am adolygu trwydded safle ac mae’n rhaid cynnal gwrandawiad i benderfynu ar y cais. Gall Prif Swyddog yr Heddlu wneud cais i’r Cyngor am adolygu trwydded safle os yw wedi ei drwyddedu i werthu alcohol a bod uwch swyddog o’r heddlu wedi rhoi tystysgrif eu bod o’r farn fod y safle’n gysylltiedig gydag unrhyw drosedd difrifol neu anrhefn neu’r ddau. Mae’n rhaid cynnal gwrandawiad a gall deiliad y drwydded a phartïon eraill roi tystiolaeth. 

Gwybodaeth Gyswllt

Yr Adran Trwyddedu
Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Ffôn: 01495 355485

Ebost : licensing@blaenau-gwent.gov.uk