Trwydded Bersonol

Beth yw trwydded bersonol?

Mae trwydded bersonol yn caniatau i unigolyn werthu neu gyflenwi neu awdurdodi gwerthiant neu gyflenwi alcohol lle mae trwydded mangre mewn grym. Mae'r drwydded yn galluogi'r deiliad i symud o un mangre i un arall heb fod angen gwneud cais am drwydded newydd bob tro. Mae'n rhaid gwneud ceisiadau am drwydded bersonol i'r Cyngor lle mae'r ymgeisydd yn byw. Unwaith y rhoddwyd trwydded, gall y deiliad gael ei enwebu fel deiliad trwydded mangre fel 'Goruchwyliwr Mangre Dynodedig' sydd ei angen ar gyfer pob gwerthiant alcohol. Mae'r person yma fel arfer yn gyfrifol am redeg y fangre o ddydd i ddydd.

Pwy all wneud cais am drwydded bersonol?

I wneud cais am drwydded bersonol mae'n rhaid i chi fod yn 18 oed neu drosodd, peidio bod â thrwydded bersonol mewn ardal Cyngor arall a pheidio bod â thrwydded bersonol wedi'i fforfedu yn y cyfnod o bum mlynedd yn dod i ben gyda diwrnod gwneud y cais. Mae'n rhaid i chi fod â cymhwyster trwyddedu wedi ei hachredu neu gymeradwyo a achredwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae'r cymwysterau hyn yn cynnwys:

  • Tystysgrif Genedlaethol BIIAB Lefel 2 ar gyfer Deiliad Trwydded Personol;
  • Tystysgrif Genedlaethol EDI (gynt GOAL) Lefel 2 ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol;
  • Tystysgrif Genedlaethol EDI (gynt GOAL) lefel 2 ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â

Beth yw'r broses gais a faint mae'n ei gostio?

Mae'n rhaid gwneud ceisiadau trwydded bersonol i'r Cyngor lle mae'r ymgeisydd yn byw. Mae'n rhaid i ymgeisydd:

  • Anfon ffurflen gais
  • Anfon datgeliad o gollfarnau a datganiad
  • Dangos gwiriad cofnodion troseddol, gweler islaw
  • Dangos tystiolaeth o'r cymhwyster perthnasol
  • Talu'r ffi gofynnol o £37.00
  • Anfon 2 ffotograff lliw maint pasbort wedi'u hardystio ei bod o wir debygrwydd

Gwiriad cofnodion troseddol yw:

  • Tystysgrif collfarn droseddol a gyhoeddwyd dan adran 112 Deddf Heddlu 1997(1) neu
  • Tystysgrif cofnod troseddol a gyhoeddwyd dan adran 113a Deddf Heddlu 1997, neu
  • Canlyniadau chwiliad mynediad pwnc dan Ddeddf Diogelu Data 1998 (2) o Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu gan y Gwasanaeth Adnabyddiaeth Cenedlaethol

A allaf wneud cais ar-lein?

Na. Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu ar 01495 355485 os gwelwch yn dda.

Pa mor hir fydd yn ei gymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn weithredol?

Lle na chafwyd ymgeisydd yn euog o drosedd  dramor berthnasol, mae'n rhaid i'r Cyngor roi'r drwydded ar unwaith h.y. bydd caniatâd dealledig yn weithredol; felly bernir y dyfarnwyd y cais.

Lle dynodir troseddau perthnasol neu dramor, mae'n rhaid i'r Cyngor hysbysu Prif Swyddog yr Heddlu ar gyfer yr ardal. Os yw'n fodlon y byddai dyfarnu'r drwydded yn tanseilio'r amcan atal troseddu, mae'n rhaid iddo o fewn 14 diwrnod yn dechrau gyda'r dyddiad y mae'n derbyn yr hysbysiad, hysbysu'r Cyngor mewn ysgrifen o'i reswm. Mae'n rhaid i'r Cyngor wedyn gynnal gwrandawiad i ystyried yr hysbysiad gwrthwynebiad, os nad yw pob ochr yn cytuno nad oes ei angen, a phenderfynu os y dylid dyfarnu neu wrthod y drwydded.

Beth sy'n digwydd os gwrthodir fy nghais - a allaf apelio?

Gallwch, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad i Lys Ynadon, o fewn 21 diwrnod o gael eich hysbysu mewn ysgrifen am y penderfyniad.

Cwynion defnyddwyr

Os oes gennych gŵyn, cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu ar 01495 355485 os gwelwch yn dda.