Trwydded Casgliad Stryd

Beth yw caniatâd Casgliad Stryd?

Mae elusen, sefydliad neu unigolyn sy'n dymuno casglu casgliad elusennol ar gyfer arian neu eiddo neu werthu eitemau er budd dibenion elusennol mewn stryd neu fan cyhoeddus angen caniatâd casgliad stryd. Fodd bynnag, nid oes angen caniatâd ar gyfer digwyddiadau nawdd neu lle gadewir blwch casglu mewn safle busnes e.e. siop, tafarn, ar gyfer casgliad yn ddiweddarach.

Pa ddeddfwriaeth sy'n rheoli casgliadau stryd?

Mae Deddf yr Heddlu, Ffatrioedd (Darpariaethau Amrywiol) 1916 yn rheoli caniatâd casgliadau stryd. Cliciwch yma i weld y ddeddf.

Pwy all wneud cais?

Gall unrhyw un dros 16 oed wneud cais fodd bynnag mae'n rhaid i'r ymgeisydd brofi eu bod yn berson addas a phriodol.

Beth yw'r broses gais?

Cyn gwneud cais, dylech wirio gyda'r Tîm Trwyddedu os yw dyddiad arfaethedig y casgliad ar gael. Mae'n rhaid cyflwyno'r ffurflen gais briodol i'r Cyngor ynghyd ag awdurdodiad ysgrifenedig gan yr elusen dan sylw. Yn ychwanegol, gall fod angen i'r ymgeisydd gyflwyno gwybodaeth bellach i gefnogi'r cais, h.y. copïau o gyfrifon casgliadau eraill.

Os cymeradwyir y cais, mae'n rhaid gwneud casgliadau arian mewn cynwysyddion wedi'u selio ac mae'n rhaid i hyrwyddwr y casgliad gyflwyno ffurflen i'r Cyngor o fewn un mis o ddyddiad y casgliad yn nodi'r swm o arian neu werth yr arian a gasglwyd.

A allaf wneud cais ar-lein?

Gwneud cais am Drwydded Casglu Stryd

Gallwch hefyd:-

Anfon ffurflen caniatad casgliad stryd.

Faint yw'r gost?

Nid oes unrhyw ffi'n daladwy.

Pa mor hir fydd yn ei gymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn weithredol?

Bydd y Cyngor yn trin eich cais cyn gynted ag sydd modd fodd bynnag dylech gysylltu â'r Cyngor os nad ydych wedi clywed o fewn 14 diwrnod o anfon eich cais. Nid oes caniatâd dealledig yn weithredol h.y. ni ddylech dybio y cytunwyd i'ch os nad ydych wedi clywed gan y Cyngor o fewn 14 diwrnod.

A allaf apelio os caiff fy nghais ei wrthod?

Gallwch apelio i Weinidog Swyddfa'r Cabinet o fewn 14 diwrnod os gwrthodir eich cais.

Cwynion cwsmeriaid

Os oes gennych gŵyn am gasgliad elusennol, cysylltwch â Thîm Trwyddedu'r Cyngor ar 01495 355485