Beth yw Ailbrisio?

Ailbrisio 2023

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) wedi diweddaru gwerthoedd ardrethol pob busnes ac eiddo annomestig arall yng nghymru a daw’r gwerthoedd ardrethol hyn i rym o 1 Ebrill 2023.

Gwerthi ardrethol yw swm y rhent y gallai eiddo fod wedi ei osod amdano ar ddyddiad prisio penodol. 1 Ebrill 2021 oedd y dyddiad hwnnw ar gyfer prisio hynnyk ar gyfer 2023.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn aesu a diweddaru gwerthoedd ardrethol bob eiddo ysnes un rheolaidd, bob pum mlynedd fel arfer. Cynhelir ailbrisio i gynnal tegwch yn y system drwy ailddosbarthu’r cyfanswm taladwy mewn ardrethi busnes, gan adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo. Ni chaiff ailbrisio ei wneud i sicrhau refeniw ychwanegol.

Os credwch fod y gwerth ardrethol yn rhy uchel

Cyn 1 Ebrillk 2023, defnyddiwch Find a Business Rates Valuation Service ar GOV.UK, i hysbysu’r VOA y credwch fod y gwerth ardrethol yn rhy uchel. Mae’n rhaid i chi barhau i dalu eich ardrethi busnes fel arfer nes y gwnaed penderfyniad.

 

Bydd apeliadau ar adrethi busnes annomestig yn newid o 1.4.23. Mae hyn yn golygu y bydd angen i drethdalwyr yng nghymru ddiliyn y broses Apl Gwirio a herio a byddant yn defnyddio gwasanaeth digidol Gwirio a Herio y VOA.

Darllenwch ganllawialu cam-wrth-gem ar y broses Gwirio a Herio.

Dim ond i restr ardrethi 2023 y bydd proses Apêl Gwirio a herio 2023 yn berthnasol. Bydd y system cynnig yn dalk i fod yn weithredol ar gyfer y rhestri ardrethi blaenorol yng Nghymru.

Cymorth Pontio

Ar gyfer eiddo cymwys, dim ond ar gyfer atebolrwydd ardrethi annomestig a ddaw o fewn cyfnod 1 Ebrill 2023 a 31 mawrth 2025 y bydd cymorth pontio yn weithredol.

Cafodd canllawiau ar y cynllun Rhyddhad Ardrethi Trosiannol ei gyhoeddii ar  wefan Busnes Cymru.

Sut i wneud cais

Os ydych yn cymhwyso, caiff rhyddhad ardrethi trosiannol ei osod yn awtomatig i’ch bil fel nad yw’n rhaid i chi wneud cais amdano.