Addysg a Hamdden

Addysg 

Sefydlwyd trefn gweithio partneriaeth gref rhwng y Cyngor, diwydiant, prifysgolion Cymru a phrifysgolion rhyngwladol sy'n arwain y byd mewn Ymchwil a Datblygu. Mae'r cydweithio yma yn enghraifft wych o addysg uwch sy'n cefnogi arloesedd a gwybodaeth. Mae gan yr Hafan Dysgu yng Nglynebwy hefyd enw ardderchog am addysg alwedigaethol ac addysg bellach, gan ddenu myfyrwyr o holl ardal De Ddwyrain Cymru. Yn ei dro, caiff y coleg ei gefnogi gan ystod eang o ysgolion uwchradd o'r safon uchaf. 

Twristiaeth

Mae gan Blaenau Gwent dreftadaeth gyfoethog gyda phob tref a phentref lawer o straeon i'w dweud am eu gorffennol.

Dim ond am y 30 mlynedd ddiwethaf y cafodd ein cynnig twristiaeth cymharol newydd, gyda safleoedd yn dyddio i'r Chwyldro Diwydiannol, eu hyrwyddo fel cyrchfan twristiaeth.

Er bod y stori treftadaeth yn glir iawn, mae llawer o elfennau y gallai pobl anghofio amdanynt. Tu hwnt i'r gofodau agored gwych, mae gan yr ardal hefyd nifer o atyniadau eraill megis gweithgareddau awyr agored, amgueddfeydd a chyfleoedd siopa gwych.

Mae Blaenau Gwent yn gyrchfan groesawgar a bywiog i bob ymwelydd, p'un ai'n ymchwilio'r dreftadaeth gyfoethog, tirlun dramatig a threfi diddorol neu'r ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau a gynhelir yn yr ardal.