Newyddion Diweddaraf a'n Prosiectau Strategol

Cylchffordd Cymru
Caiff Cylchffordd Cymru ei lleoli yn agos at Stad Ddiwydiannol Rhasa i'r gogledd o Lynebwy.
Bydd Cylchffordd Cymru yn trawsnewid 830 erw o Flaenau Gwent ar raddfa nas gwelwyd o'r blaen ac yn rhoi sylw byd-eang i'r ardal. Bydd y cynllun blaengar yn adfywio'r holl ardal yn llwyr, gan roi cyfleoedd rhagorol mewn creu swyddi, twristiaeth ac ymchwil a datblygu.
Fel y rhaglen buddsoddi cyfalaf mwyaf sylweddol yn y seilwaith modurol ym Mhrydain yn y 50 mlynedd ddiwethaf, bydd Cylchffordd Cymru yn sicrhau fod Cymru'n dod yn gyfystyr gyda gweithgaredd campau modur safon uchel, masnach ac adloniant yn fyd-eang.
Bydd y datblygiad yn ychwanegiad sylweddol i gyfleusterau campau modur gorau Ewrop a chaiff ei gynllunio i gynnal digwyddiadau rhyngwladol fel MotoGP, World Superbikes, World Motocross a World Touring Car.
Bydd Cylchffordd Cymru yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer campau modur y Deyrnas Unedig ac yn sicrhau cyfleuster campau modur carbon isel rhyngwladol diguro yng Nghymru.
Adeiladu Momentwm a Hyder Buddsoddiad
Sefydlwyd rhwydwaith cryf o bartneriaeth a chydweithio dros flynyddoedd lawer ym Mlaenau Gwent ac mae hyn yn ganolog i'n llwyddiant. Defnyddiwn hyn i ffurfio cysylltiadau strategol a chynghreiriau newydd ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector gwirfoddol sydd ei angen i ddarparu a chynnal datblygiad economaidd. Bu llawer o gynlluniau pwysig sy'n rhoi catalydd ar gyfer adfywio ym Mlaenau Gwent.
Parth Menter
Mae cymhellion ar gael i fusnesau i gynorthwyo wrth symud i Barth Menter Glynebwy. Mae busnesau bach a chanolig a busnesau newydd yn cael budd o gefnogaeth ariannol at drethi busnes. Mae cyllid o'r Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru, y Cyngor a'r sector preifat hefyd wedi cefnogi gwaith adfywio sylweddol i ganol trefi, gan fanteisio i'r eithaf ar y seilwaith gwyrdd, treftadaeth a chymeriad hanesyddol.
https://businesswales.gov.wales/enterprisezones/cy/ardaloedd-menter/glyn-ebwy
Y Gweithfeydd, Glynebwy
Mae datblygiad Y Gweithfeydd yn un o'r prosiectau adfywio economaidd mwyaf cymhleth erioed yng Nghymru. Fe'i cynlluniwyd i adfywio ardal Blaenau'r Cymoedd ac mae'n gatalydd am newid, gan greu buddion cymdeithasol ac amgylcheddol yn ogystal â chyfleoedd cyflogaeth a chyfleusterau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Datblygwyd y Gweithfeydd ar safle 200 erw yng Nglynebwy ac mae eisoes £168m o fuddsoddiad cyfalaf a ddefnyddiwyd i ddatblygu seilwaith ac adeiladu ar y safle. Mae hefyd gydweithio gyda'r sector preifat i hybu'r buddsoddiad ymhellach, gan greu cyfleoedd i ddatblygu prosiectau a gwasanaethau i statws enghreifftiol.
Mae'r Gweithfeydd wedi gwella'n ansawdd bywyd yn sylweddol ar gyfer cymunedau lleol a denu buddsoddiad newydd. Mae'r gymuned yn cynnwys:
- Rhwydwaith Preifat Gwresogi Ardal
- Darpariaeth Addysg - Ysgol 3-11, Ysgol 3-16 a Chanolfan Plant Integredig
- Hafan Dysgu - Coleg Ôl-16
- Darpariaeth Iechyd - Ysbyty Aneurin Bevan, sy'n ysbyty cymunedol gyda 114 o welyau
- Cyfle datblygiad preswyl ar gyfer tua 300 o dai - eisoes wedi'i adeiladu mae datblygiad gwobrwyol o bedwar cartref ynni isel arbrofol sy'n cynnwys tŷ Passivhaus di-carbon cyntaf Prydain
- Hamdden a Threftadaeth - parc 20 erw, sy'n cynnwys ardal gwlypdir, canolfan hamdden a darpariaeth chwaraeon awyr agored
- Swyddfeydd Cyffredinol - atyniad ymwelwyr yn rhoi sylw i Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy ac Ymddiriedolaeth Archif
- Parc Busnes - 6 erw o ddatblygiad busnes
- Dolen Fecanyddol yn cysylltu'r Gweithfeydd gyda chanol y dref.
Drwy adeiladu ar y cydweithio llwyddiannus a gafwyd hyd yma ac ehangu partneriaethau strategol anelwn adeiladu timau cynhwysol, gan gynyddu manteision gwahaniaeth a defnyddio sgiliau a photensial yr ystod ehangaf posibl o gydweithwyr.
Mae gan Flaenau Gwent yn awr gyfleoedd gwirioneddol am dwf ac mae'n dilyn strategaeth ragweithiol ar gyfer sicrhau buddsoddiad ac mae nifer o brosiectau eisoes yn yr arfaeth. Mae'r cyfleoedd hyn rhoi catalyddion pellach ar gyfer adfywio yn yr ardal.
Coridor Gogledd Glynebwy
Mae rhaglen Adfywio Coridor Glynebwy yn gyfanswm nifer o rannau. Mae'n cynnwys amrywiaeth o safleoedd cyflogaeth preifat a chyhoeddus, adeiladau, seilwaith, prosiect adfywio defnydd cymysg sylweddol, darpar brosiect campau modur a chanol tref sydd i gyd yn cyflwyno eu cyfleoedd unigol eu hunain.
Mae Prosiect Adfywio Coridor Gogledd Glynebwy yn ystyried y cyfan uchod ac yn dod â hwy ynghyd gyda gweledigaeth strategol a chynllun cyflenwi. Bydd y cynllun meistr yn manteisio i'r eithaf ar fuddion yr holl safleoedd, a allai olygu gwerthoedd tir, cyfleoedd swyddi, gwelliannau amgylcheddol, buddion economaidd ac ati a sicrhau bod Blaenau Gwent yn fusnes newydd ac yn gyfeillgar i ddatblygu pe byddai cyfleoedd yn codi.
Datblygiad Tai
I weithredu rôl galluogi'r Cyngor o sicrhau mewnfuddsoddiad ac adfywio cymunedau, rydym wedi datblygu dull gweithredu partneriaeth i gynyddu'r cyflenwad o gartrefi newydd i weithredu fel catalydd ar gyfer adfywio yn y dyfodol.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda chymdeithasau tai lleol i hyrwyddo datblygiad dan fodel trwydded. Mae hyn yn hwyluso darparu tai newydd i'w gwerthu ar y farchnad agored ac wrth wneud hynny bydd yn trin y prinder presennol o dai fforddiadwy.
Prosiectau Arddangos
Nod prosiect RESILIENT yw cynllunio, datblygu a gosod system newydd o ryng-gysylltedd rhwng adeiladau, gridiau adnoddau ynni dosbarthedig (DER) a rhwydweithiau eraill ar lefel ardal, gan asesu'r buddion ynni ac amgylcheddol cysylltiedig.
Mae RESILIENT yn brosiect pedair blynedd, a ddechreuodd yn 2012 ac sy'n cynnwys 14 Partner o 5 gwlad Ewropeaidd, yn cynnwys yr Eidal, Gwlad Belg, Ffrainc, y Deyrnas Unedig a Sbaen, a ddechreuodd ym mis Medi 2012. Mae gan y prosiect gyfanswm cyllideb o tua €8.1 miliwn.
Caiff y prosiect ei ariannu gan raglen Fframwaith 7 Ewrop dan y pwnc Rhyngweithio ac integreiddio rhwng adeiladau, gridiau, rhwydweithiau gwresogi ac oeri a systemau storio a chynhyrchu ynni.