Diogelwch Petroliwm

Mae petrol yn sylwedd peryglus, mae’n hylif hynod fflamadwy a gall roi bant anwedd y gellir yn rhwydd ei roi ar dân ac os na thrafodir ef yn ddiogel mae ganddo’r potensial i achosi tân difrifol a/neu ffrwydrad. 

Golyga hyn bod bob amser risg o dân a/neu ffrwydrad os oes ffynhonnell danio gerllaw. Er enghraifft fflam agored, gwreichionen drydanol neu debyg. Oherwydd y peryglon hyn, mae storio petrol yn ddiogel wedi ei gorffori’n rhan o ddeddfwriaeth; ac mae hyn yn gymwys ar eich cyfer chi os ydych yn storio petrol.

 Beth yw’r gyfraith ar storio petrol yn ddiogel? 

Mae Rheoliadau (Cyfuno) Petroliwm 2014 (RhCP) a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2014 yn gymwys ar gyfer: 

  • gweithleoedd sy’n storio petrol lle caiff petrol ei ddosbarthu h.y. gorsafoedd petrol manwerthu a heb fanwerthu; a
  • safleoedd heb fod yn weithleoedd sy’n storio petrol, er enghraifft mewn cartrefi preifat, neu mewn clybiau/cymdeithasau (neu debyg). 

Awdurdodau Gorfodi Petroliwm (AGPau) yn flaenorol Awdurdodau Trwyddedu Petroliwm (ATPau) sy’n gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau (Cyfuno) Petroliwm 2014. Maent hefyd yn parhau i orfodi’r Rheoliadau Sylweddau Peryglus ac Atmosfferau Ffrwydrol 2002 (RhSPAFf) mewn gweithleoedd sy’n dod dan Reoliadau (Cyfuno) Petroliwm. Golyga hyn nad oes newid o gwbl i’r trefniadau gorfodi cyfredol. 

Mae storio petrol yn ddiogel mewn gweithleoedd yn cael ei gwmpasu hefyd gan RhSPAFf. 

 

 

 

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Commercial Team

Rhif Ffôn: 01495 357813

Cyfeiriad: Public Protection – Environmental Health, The General Offices, Steelworks Road, Ebbw Vale NP23 6DN

Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk