Tendrau Cyfredol

Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn anelu i hysbysebu unrhyw gontractau dro £25,000.00. Caiff cyfleoedd contract eu cyhoeddi drwy ddwy system: 

  • GwerthuiGymru yw'r wefan caffael genedlaethol ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynnwys yr holl gyfleoedd contract a hysbysebir yn eang a brisir yn uwch a hefyd yn is na throthwyon yr Undeb Ewropeaidd. Mae gan GwerthuiGymru gysylltiad uniongyrchol gyda'r OJEU ('Official Journal of the European Union') lle mae'n rhaid cyhoeddi contractau uwchben trothwyon yr Undeb Ewropeaidd.
  • EdendrCymru - caiff holl gyfleoedd tendro y Cyngor eu hysbysebu ar borth e-dendro y Cyngor. 

Mae'r Cyngor yn annog cyflenwyr i gofrestru ar EdendrCymru a GwerthuiGymru. Mae'r ddau yn rhad ac am ddim ac yn galluogi cyflenwyr i dderbyn hysbysiadau tendr yn awtomatig, gweld cyfleoedd, diweddaru a chynnal eu proffil, derbyn cyfarwyddiadau ar sut i gael mynediad ac ymateb i ddogfennau tendr a gweld manylion contractau a ddyfarnwyd. Caiff y safleoedd hyn hefyd eu defnyddio'n aml gan y Cyngor fel ffordd o gyrchu gofynion gwerth is.

Gwybodaeth Gyswllt

Lee Williams – Rheolwr Caffaeliad Corfforaethol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Y Swyddfeydd Cyffredinol

Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN

E-bost: lee.williams@blaenau-gwent.gov.uk