Proses Gaffael

Caiff ein holl fusnes ei gaffael yn defnyddio proses gystadleuol, p'un ai ar gyfer cymharu dyfynbrisiau ar gyfer pryniadau cost isel neu fynd drwy'r weithdrefn dendro ffurfiol ar gyfer contractau pris uwch. 

Ein cam nesaf yw canfod os daw'r nwyddau, gweithiau neu wasanaethau o fewn contract neu fframwaith presennol. Os ydynt, yna mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r cyflenwr hwnnw, os na, yna mae gwerth y contract yn cael effaith ar y broses caffael fel y manylir islaw. 

Caiff gwerth contract ei benderfynu drwy amcangyfrif gwerth y nwyddau, gwasanaethau neu weithiau sydd eu hangen a chyfnod y gofyniad. 

Contract llai na £5,000

Bydd angen o leiaf un dyfynbris ysgrifenedig ar gyfer pryniad o'r gwerth yma. 

Contract rhwng £5001 a £50,000

Ni chaiff contractau o'r gwerth yma eu hysbysebu fel arfer ond mae angen o leiaf dri dyfynbris ysgrifenedig. 

Contract rhwng £50,001 a £164,176
(Nwyddau a Gwasanaethau)

Fel arfer caiff pryniadau o'r swm hwn eu hysbysebu ar GwerthuiGymru ac EtendrCymru ac mae angen o leiaf pum tendr ffurfiol. 

Contract rhwng £50,001 a £4,104,394 (Gweithiau)

Caiff pryniadau o'r swm hwn fel arfer eu hysbysebu ar GwerthuiGymru ac EtendrCymru ac mae angen o leiaf bum tendr ffurfiol neu ddetholiad o Restr Gymeradwy lle mae rhestr briodol yn bodoli. 

Trothwy yr Undeb Ewropeaidd (UE)

Mae'n rhaid i gontractau gyda gwerth uwch na throthwyon neilltuol ddilyn y rheolau gweithdrefnol yng Nghyfarwyddebau Caffael yr Undeb Ewropeaidd (Rheoliadau Contract Cyhoeddus 2015). 

Nwyddau a Gwasanaethau

Trothwy presennol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Nwyddau a Gwasanaethau yw £164,176. Os yw contract yn uwch na trothwy’r Undeb Ewropeaidd a heb fod yn eithriedig yna bydd rheoliadau'r Undeb Ewropeaidd yn weithredol. Mae'r rheoliadau hyn yn nodi'r amserlenni a'r gofynion ar gyfer pob cam o’r broses. Mae'n rhaid i dendrau ar gyfer Nwyddau a Gwasanaethau dros y swm hwn gael eu hysbysebu yn yr OJEU ('Official Journal of the European Union') drwy wefan GwerthuiGymru ac EtendrCymru ac maent yn amodol ar broses dendro ffurfiol dan Gyfarwyddebau Caffael yr Undeb Ewropeaidd. 

Gweithiau

Trothwy presennol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer contractau Gweithiau (cysylltiedig ag adeiladu) yw £4,104,394. Mae'n rhaid i dendrau ar gyfer gweithiau dros y swm hwn gael eu hysbysebu yn yr OJEU ('Official Journal of the European Union') drwy wefan GwerthuiGymru ac EtendrCymru ac maent yn amodol ar broses dendro ffurfiol dan Gyfarwyddebau Caffael yr Undeb Ewropeaidd. 

  • Cyfarwyddiadau i dendrwyr
  • Manyleb y nwyddau, gweithiau a gwasanaethau sydd eu hangen
  • Meini prawf ar gyfer dethol
  • Cyfnod y contract
  • Telerau ac amodau'r contract
  • Manylion y tendrwr a thystlythyrau
  • Holiadur tendr
  • Yr atodlen pris neu eraill os yn briodol, e.e. atodlen gwybodaeth
  • Ffurflen tendr
  • Unrhyw wybodaeth ychwanegol a ystyrir yn briodol i sicrhau fod y Cyngor yn derbyn y gwerth gorau am arian

Sut i baratoi eich tendr 

Darllenwch y dogfennau'n ofalus os gwelwch yn dda a rhoi'r holl wybodaeth y gofynnir amdani. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, dylech eu codi gyda'r swyddog cyswllt a nodir yn nogfennau'r tendr. Gofynnir i chi wneud yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich tendr ar ôl ei lenwi erbyn y diwrnod dyledus.

Pan fyddwn yn ystyried prynu, mae'n rhaid i ni ganiatáu cyfnod penodol neu resymol i ddarpar gyflenwyr i ymateb. Gall gymryd nifer o fisoedd i gwblhau'r broses.

Dyfarnu Contract 

Os ydych yn llwyddiannus wrth gyflwyno tendr, cewch eich hysbysu mewn ysgrifen a gellir gofyn i chi lofnodi ffurflen cytundeb. Hysbysir pob tendrwr aflwyddiannus a rhoi manylion iddynt pwy enillodd y tendr a sut yr oedd eu cyflwyniad yn cymharu gyda'r cynnig buddugol. Pan ddyfernir contract,  byddem yn gweithio o fewn rheolau gweithdrefn contract sy'n hyrwyddo arfer caffael da, atebolrwydd cyhoeddus ac yn atal llygredd. 

Telerau ac amodau 

Mae pob tendr yn ddarostyngedig i delerau ac amodau. 

Mwy o wybodaeth 

Os oes gennych nwyddau neu wasanaethau y credwch y byddai gan adran ddiddordeb eu prynu, yna dylech gysylltu â'r adran honno. Dylid cofio bod y tîm caffael corfforaethol yn goruchwylio prosiectau ac yn cynnig cyngor a chefnogaeth ar faterion caffaeliad, ond mater i adran yw penderfynu os oes ganddynt ddiddordeb yn eich nwyddau neu wasanaethau. 

Gwybodaeth Gyswllt

Lee Williams – Rheolwr Caffaeliad Corfforaethol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Y Swyddfeydd Cyffredinol

Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN

E-bost: lee.williams@blaenau-gwent.gov.uk