Prosbectws Blaenau Gwent

Yn neilltuol Gymreig, mae gan Flaenau Gwent dreftadaeth o weithgynhyrchu sy'n cysylltu cyfleoedd busnes ac addysg i ddarparu gweithlu medrus a hyblyg. Cefnogwn ein dinasyddion i gyflawni eu potensial llawn drwy greu lleoedd llwyddiannus i ymweld â nhw a buddsoddi, byw, gweithio ac astudio ynddynt. 

Ein Gweledigaeth ... 

Ein gweledigaeth yw creu a sefydlu delwedd gadarnhaol ar gyfer Blaenau Gwent yn adlewyrchu natur ddeinamig y sir a rhanbarth De Ddwyrain Cymru, yn gwneud lle gwirioneddol gyfeillgar i fusnes i sicrhau bod Blaenau Gwent yn parhau'n gystadleuol, y sicrhau cyfle, ac yn dod yn lleoliad cyfeillgar i fusnes lle mae'n 'rhwydd gwneud busnes'.

Gan weithredu fel hyrwyddwyr a llysgenhadon y sir, byddwn yn dynodi ac yn hyrwyddo'r rhaglenni a phrosiectau hynny sy'n cefnogi cyflawniad ein gweledigaeth a byddwn yn gweithio gyda'n holl bartneriaid buddsoddi i ysgogi, galluogi a chefnogi cyfranogiad egnïol yn y camau sydd eu hangen ar gyfer cyflenwi. 

Croeso Cynnes 

Mae Blaenau Gwent yn gyrchfan groesawgar a bywiog i bob ymwelydd a'r rhai sy'n ymchwilio'r dreftadaeth gyfoethog, tirlun dramatig, trefi diddorol a'r ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd ar gael yn yr ardal. 

Mae gennym gynnig twristiaeth cyfoethog ond cymharol newydd, yn seiliedig yn bennaf ar dreftadaeth yr ardal, gyda safleoedd o'r Chwyldro Diwydiannol ac mor bell yn ôl a'r cyfnod cynhanes. Er bod y stori treftadaeth yn glir iawn, mae llawer o gynigion newydd eraill nad ydynt wedi eu darganfod hyd yma. 

Ein Taith Lwyddiannus

Mae ein taith dros y 50 mlynedd ddiwethaf wedi gweld trawsnewid enfawr i'n heconomi a thirlun. Credwn fod llwyddiant yn daith ac nid cyrchfan. 

Pwyslais ar fusnes

Mae popeth yn llifo o economi leol ffyniannus, felly mae sicrhau lle gwirioneddol gyfeillgar i fusnes i sicrhau fod Blaenau Gwent yn parhau'n gystadleuol, yn cydio mewn cyfle ac yn dod yn lleoliad cyfeillgar i fusnes lle mae'n 'rhwydd gwneud busnes' yn brif flaenoriaeth i ni. 

Rydym yn cydnabod ein rôl wrth gyflawni hyn ac mae gennym ffordd o feddwl 'gallu gwneud' sy'n rhoi cefnogaeth i fusnesau lleol, buddsoddwyr a datblygwyr yn gyflym ac yn broffesiynol. Cynigiwn asedau cyfalaf, cysylltiadau, profiad a mynediad i gyllid allanol i'n pobl i ategu darpar adnoddau sector preifat er mwyn cyflawni ein gweledigaeth. 

Mae ein prosiectau adfywio yn cynnwys cefnogaeth hyfforddiant a recriwtio pwrpasol ar gyfer y sectorau gweithgynhyrchu a pheirianneg yn ogystal â'r diwydiant adeiladu. 

Tyfu gyda ni ... 

Gan chwarae rôl bwysig mewn datblygu prosiectau strategol mawr o fewn Cymru, mae gan Flaenau Gwent hanes o lwyddiant mewn denu a chefnogi busnesau rhyngwladol a gweithgynhyrchu ac mae ganddo bedigri o gwmnïau gweithgynhyrchu cynhenid llwyddiannus. Mae ein henw da cynyddol ar fin arweiniol datblygiad economaidd cynaliadwy yn golygu fod Blaenau Gwent yn cynnig yr agwedd a'r seilwaith i droi syniadau blaengar yn wasanaethau a chynnyrch byd-eang. 

Yn manteisio o'i statws Parth Menter, sylfaen economaidd cryf, cysylltiadau i brifysgolion safon byd, lleoliad hygyrch gwych a chostau gweithredu a chyflogaeth cystadleuol, mae Blaenau Gwent yn manteisio ar y cyfle i symud ymlaen i lefel newydd a mwy llwyddiannus. 

Dewch i siarad gyda ni am eich syniadau am dwf. Edrychwn ymlaen at eich helpu i gyflenwi eich cynlluniau ...

Cysylltwch â ni ar 01495 355700 neu business@blaenau-gwent.gov.uk

Gwybodaeth Gyswllt

Sue John

Ffon: 01495 354669

E-bost: sue.john@blaenau-gwent.gov.uk