Cysylltedd

Lleoliad Strategol 

Mae Blaenau Gwent yng nghanol rhanbarth De Ddwyrain Cymru ac mae ganddo gysylltiadau strategol ar ffordd, rheilffordd ac awyr ac mae'n un o'r lleoedd mwyaf hygyrch yn y Deyrnas Unedig. 

Mae ein lleoliad strategol yn manteisio ar gyfleoedd cadwyn cyflenwi gyda mynediad rhwydd i nifer o gwmnïau mawr yn y sector gweithgynhyrchu a chanolfannau gweithgynhyrchu eraill yn y Deyrnas Unedig yn cynnwys Gorllewin y Midlands. 

3½ awr i Lundain a dan 1 awr i Gaerdydd ar Reilffordd Glynebwy. 

1 awr i Fryste, dan 2 awr i Birmingham a 2½ awr i Lundain mewn car. 

Cafodd rhan Blaenau Gwent o ffordd ddeuol yr A465 ei chwblhau yn haf 2015, gan roi mynediad o bob pwynt y cwmpawd. 

Mae Maes Awyr Caerdydd o fewn cyrraedd rhwydd o Flaenau Gwent o fewn 1½ awr. Mae meysydd awyr rhyngwladol Bryste a Birmingham o fewn 1¾ awr

Gellir allforio nwyddau o Fryste (40 milltir i fwrdd) a Chasnewydd (20 milltir i ffwrdd). 

Tu hwnt i'r tirlun rhyfeddol a gofodau agored gwych, mae Blaenau Gwent yn lleoliad ardderchog ar gyfer busnes. 

Digidol

Mae gan Flaenau Gwent fand eang cyflym, gan roi mynediad i offer busnes a gwasanaethau ar draws cysylltiadau cyflymach a mwy dibynadwy. 

CYSYLLTWCH Â NI ..

Ar gyfer cyfleoedd diguro ar gyfer busnes, creu swyddi, ymchwil a datblygu, siaradwch â ni ar 01495 355700. Rydym eisiau gwneud busnes yn rhwydd i chi ... #buddsoddiBG