1. Cyfrifoldebau defnyddwyr
Mae hawl tramwy ond yn rhoi hawl i ddefnyddwyr i basio ac ail basio ar hyd llwybr yn unig ac i fynd o amgylch unrhyw rwystr y gallant ddod ar ei draws. Gall unrhyw ddefnydd arall ar dir preifat fod yn tresbasu oni bai fod gyda chi ganiatâd y perchennog tir neu ryw hawl arall i fod yno. Dylai defnyddwyr hawl tramwy ddilyn Cod Cefn Gwlad sydd yn darllen fel a ganlyn:-
Cod Cefn Gwlad – cyngor ar gyfer y cyhoedd
-
Byddwch yn ddiogel – cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion
-
Gadewch gatiau a mangre fel yr ydych yn eu darganfod
-
Diogelwch planhigion ac anifeiliaid, ac ewch â’ch sbwriel adref
-
Cadwch gwn o dan reolaeth agos
-
Ystyriwch bobl eraill
-
Dylai cerddwyr fod yn barod i wisgo esgidiau cerdded neu esgidiau glaw gan y gall llwybrau fod yn fwdlyd iawn.
2. Cyfrifoldebau’r Cyngor
Cynnal a Chadw
- Cynnal a chadw arwynebedd llwybrau, gan gynnwys rheoli llystyfiant naturiol a’u cadw yn rhydd rhag rhwystrau.
- Mae’r cyngor yma yn gweithredu rhaglen clirio flynyddol ar gyfer nifer o lwybrau.
- Rhoi arwyddbyst ar lwybrau pan eu bod yn gadael heol fetelaidd a hefyd marcio’r ffyrdd lle mae’n anodd ei ddilyn.
- Mewnosod a chynnal a chadw pontydd ar draws dyfrffyrdd naturiol, megis nentydd a ffosydd.
Gorfodaeth
Mae nifer o Ddeddfau’r Senedd yn ymwneud gyda hawliau tramwy ond y prif un yw’r Ddeddf Priffyrdd
- lluniwyd yn 1959 ac fe’i diweddarwyd yn 1980. Mae hawl tramwy mewn gwirionedd yn is briffyrdd ac mae’r ddeddfwriaeth mewn gwirionedd yn berthnasol i rwystrau, a methiant i gynnal a chadw.
Mae deddfwriaeth hefyd yn bodoli i ddiogelu’r cyhoedd rhag materion megis arwyddion camarweiniol, anifeiliaid peryglus a brawychiad.
3. Cyfrifoldebau Perchnogion Tir a Meddianwyr:
Peidio â gosod rhwystrau ar draws llwybrau gan gynnwys gosod gwifren drydan, neu bigog neu blaen ar eu traws a rhybuddio defnyddwyr o unrhyw beryglon posibl ger y ffordd tramwy
- Cadw perthi a thorri llechfeddiannu llystyfiant yn ôl
- Peidio ag aredig neu darfu ar ochrau llwybrau sydd yn ffinio gyda’r cae
- Ond aredig llwybrau sydd mewn cae lle na ellir eu hosgoi’n ymarferol
- O fewn 14 diwrnod o aredig/hau had, adfer llwybrau sydd yn croesi caeau fel y gellir eu gweld a’u defnyddio
- Sicrhau bod sticlau a gatiau ar eu tir yn gweithio
- Peidio ag adeiladu sticil, gat neu unrhyw strwythur newydd arall ar ffordd tramwy heb awdurdod y Cyngor Sir
- Dilyn rheolau sydd yn berthnasol i deirw - h.y. peidio â chaniatáu tarw llaeth dros deg mis oed i fod yn rhydd mewn unrhyw gae y mae hawl tramwy yn pasio drwyddo.
- Darparu pontydd digonol lle mae ffosydd yn cael eu creu neu lle mae’r rhai presennol yn cael eu lledaeni
- Gall perchnogion tir neu ffermwyr saethu ar eu tir ond nid mewn modd sydd yn peryglu’r cyhoedd sydd wrthi yn defnyddio ffordd tramwy.
Mae’r canlynol yn dod o fewn y term Brid Llaeth: Ayrshire, Holstein Brydeinig, Buches Laeth Corn Byr, Guernsey, Jersey a Kerry.
Caniateir pob brid arall o deirw, ond rhaid iddynt fod yng nghwmni buchod neu heffrod.
4. Cynghorau Cymunedol
Nid oes gan y Cynghorau yma unrhyw bwerau a chyfrifoldebau sydd yn berthnasol i ffyrdd tramwy ac mae’r rhain yn cynnwys cynllunio, baedd cwn, tipio anghyfreithlon a sbwriel.
Mae glanhau sbwriel a thipio anghyfreithlon yn gyfrifoldeb iddynt o dan Ddeddf Diogelu Amgylchedd 1990. Mae perchnogion tir yn gyfrifol am symud sbwriel o’u preswyl fannau eu hunain, does gwahaniaeth pwy bynnag a’i rhoddodd yno.
Mae’r cynghorau yma mewn cydweithrediad gyda Heddlu Gwent hefyd yn gyfrifol am geir sydd wedi eu hamddifadu.
Cynllunio
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gyfrifol am weithredu ceisiadau cynllunio - lle mae’r rhain yn effeithio hawliau tramwy.




