Mynediad cerbyd - cyrbau


CYRBAU WEDI EU GOSTWNG

Lle mae preswylfa angen mynediad i’r briffordd ac mae’r ardal rhwng y breswylfa a’r heol angen ei newid yna mae angen caniatâd oddi wrth yr Awdurdod Ffyrdd am y gwaith y bwriedir ei wneud. Mae’r gwaith fel arfer yn cynnwys creu mynediad cerbyd i breswylfa unigol dros neu wrth ochr llwybr troed a / neu ymyl.

Mae hwn yn ychwanegol i unrhyw ganiatâd cynllunio a chydsyniadau eraill efallai sydd eu hangen. A wnewch chi nodi y bydd mynediad o Ffordd Dosbarth 1 angen caniatâd cynllunio.

Rhaid talu ffi ymgynghori gychwynnol cyn y bydd Swyddogion o’r Gwasanaethau Peirianneg yn asesi eich cais. I wneud cais am ostyngiad i’r cwrb a wnewch chi gysylltu gyda’r canlynol os gwelwch yn dda:-

Canolfan Alw C2BG (01495) 311556  (minicom = 01495-355959)
Ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Iau 8yb-8yh/Dydd Gwener 8yb-4.30yp

Fel arall, ysgrifennwch at:-

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Adran Gwasanaethau Technegol
Ty Baldwin
Parc Busnes Victoria
Glyn Ebwy
NP23 8ED