Gostegu Trafnidiaeth
Mae Cyngor Blaenau Gwent yn gyfrifol am y ddarparu a chynnal mesurau gostegu trafnidiaeth yn ei ardal. Caiff y rhain eu defnyddio er mwyn rheoli cyflymder teithio gyrwyr, gyda’r nod penodol o ostwng lefelau a difrifoldeb damweiniau ffordd. Caiff pob heol ei hystyried ar sail eu teilyngdod, gan ddibynnu ar ysgolion, cyfradd damweiniau, cyflymder a lefel y drafnidiaeth.
Twmpathau Rheoli Cyflymder
Wedi’u dylunio ar gyfer cael eu defnyddio ar heolydd 30mya ar heolydd sydd wedi eu goleuo’n dda, mae’r rhain yn cynnig cyfrwng i reoli cyflymder cerbydau. Maent yn gallu bod yn gydran bwysig yn y broses ymchwilio ac atal damweiniau, ac mewn mesurau rheoli trafnidiaeth ehangach. Mae twmpathau heol yn gyfrwng hynod effeithlon o gadw cyflymder cerbydau yn isel. Mae’r twmpath safonol sydd yn ymestyn o gwrb i gwrb wedi profi’n effeithiol. Wrth deithio ar gyflymder isel, gall gyrwyr groesi’r twmpathau yma heb ormod o anesmwythdod i gyd-deithwyr na difrod i’r cerbyd, ond wrth i gyflymder gynyddu, maent yn dod yn gynyddol anesmwyth.
Palmantau Allwthiol a Phalmantau Main
Gall y rhain fod yn hynod ddefnyddiol i wella amgylchiadau croesi’r ffordd i gerddwyr. Mae’r ffordd gerbydau sy’n culhau yn y mannau hyn yn golygu fod gan gerddwyr, yn enwedig plant, lai o ffordd i’w chroesi, ac o ganlyniad gallant groesi’n gynt. Gwelliant ychwanegol yw y gellir ymestyn palmantau allwthiol sy’n ffurfio ymylon eithaf mannau parcio cysgodol y tu hwnt i derfynau cerbydau sydd wedi eu parcio, fel y gall gyrwyr sy’n dynesu weld, a chael eu gweld, cyn i bobl ddechrau croesi. Dylid darparu arwynebau cyffyrddol i ddynodi ymyl y palmantau allwthiol, fel sy’n cael ei argymell yng Nghylchlythyr 1/91 yr Uned Anableddau. Yn gyffredinol, nid yw rhwystrau gosod yn briodol mewn mannau lle bydd pobl yn croesi, gan y gallai gyrwyr fod yn canolbwyntio mwy ar sut i wneud eu ffordd drwy’r nodwedd nac ar gerddwyr sy’n dynesu atynt.
Cynllun Rhwystrau Gosod (Chicane Scheme)
Mae’r Rheoliadau Gostegu Trafnidiaeth 1993 yn caniatáu i Awdurdodau Prif Ffyrdd i adeiladu amrywiaeth eang o nodweddion gwyro llorweddol , gan gynnwys rhwystrau gosod. Mae arolygon agwedd sydd wedi eu cynnal ar gynlluniau gostegu trafnidiaeth i’w gweld yn awgrymu fod y cyhoedd yn tueddu i beidio â hoffi nodweddion gwyro llorweddol yn fwy na thwmpathau heol.





