Marciau ffyrdd ac arwyddion - platiadau enw stryd

Mae’n ddyletswydd ar y Cyngor i roi cyfeiriad i eiddo a chynghori Awdurdodau amrywiol, gan gynnwys Swyddfa’ Post. Hyd oni y bydd cyfeiriad yn cael ei roi i eiddo, ni ellir rhoi cod post, a gall hyn beri trafferth i drigolion newydd. Mae o fudd i chi i roi gwybod i’r Cyngor cyn gynted ag y bo modd o’ch anghenion.
  

  • Mae’r broses ar gyfer eiddo i’w lenwi fel arfer yn weddol hawdd, ac yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond rhif ar stryd yn unig sydd ei angen.

  • Tra bo rhai ymgeiswyr am enwi’r eiddo, nid yw hyn yn dderbyniol fel arfer oni bai fod y lleoliad yn ei ganiatáu, ac yn yr holl achosion hynny lle y ceir rhif ar dy yn barod, rhaid cadw hyn.

  • Mae angen ar gyfer datblygiadau mwy i greu strydoedd newydd sydd angen eu henwi a'u rhifo. Mae yna weithdrefn benodol ar gyfer hyn lle gall y datblygwr gynnig enw ar gyfer ystyriaeth. Mae’r Cyngor wedyn yn ymgymryd ag asesiad o addasrwydd yr enw arfaethedig. Mae’r asesiad yma yn cynnwys ymgynghori gyda’r Cynghorwyr Ward, adnabod gwrthdaro neu ddyblygiad gydag enwau eraill a sicrhau bod anghenion Deddf Iaith Gymraeg yn cael eu diwallu.

 

Manylion Cyswllt

Ebost : technicalservices@blaenau-gwent.gov.uk