CYNLLUN SWYDDOG IAU DIOGELWCH FFORDD
Ariannir y cynllun Swyddog Iau Diogelwch Ffordd drwy Grant Diogelwch Ffordd Llywodraeth Cynulliad Cymru i Gyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent. Mae’n galluogi disgyblion i gymryd peth cyfrifoldeb am ddiogelwch ffordd o amgylch eu hysgol eu hunain ac yn eu helpu i drosglwyddo negeseuon pwysig i’w cyfoedion am gadw’n ddiogel.
Caiff pob Swyddog Iau eu cefnogi yn eu rôl gan oedolion yn yr ysgol, y Swyddog Diogelwch Ffordd lleol a Chydlynydd y Swyddogion Iau Diogelwch Ffyrdd. Yn bennaf oll, mae’r cynllun yn gyfraniad gwerthfawr at ddiogelwch ffyrdd mewn ysgolion, cymunedau lleol a Chymru yn gyffredinol.
Mewn cyfarfodydd lleol Partneriaethau a Chymunedau Ynghyd (PaCT), mae goryrru yn aml yn cael ei nodi fel blaenoriaeth, sy’n dangos yn glir fod hyn yn bryder difrifol i breswylwyr. Ym Mrynmawr, mae pobl leol yn neilltuol o bryderus am gyflymder a nifer y cerbydau ar Heol Intermediate, lle mae parth 20mya ar waith.
Dengys ystadegau mai prif achos damweiniau traffig ffordd yw cyfuniad o gyflymder amhriodol neu ormodol gyda rhyw fath o gamgymeriad dynol. Gyrru’n rhy gyflym oedd un o brif achosion damweiniau traffig ffordd yng Ngwent y llynedd.
Mae ymgyrch “THINK!” yr Adran Drafnidiaeth yn dangos pam fod terfynau cyflymder yn bodoli drwy nodi os tarwch blentyn ar 40mya bod 80% o gyfle y cânt eu lladd ac os tarwch blentyn ar 30mya mae 80% o gyfle y byddant yn byw. Fodd bynnag, os tarwch blentyn ar 20mya, mae gan y plenyn gyfle o 90% o fyw.
Fel canlyniad, cynhaliodd Ysgol Gynradd Santes Fair yr Eglwys yng Nghymru, yr Heddlu, Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent a Capita Symonds arolwg cyflymder y tu allan i’r ysgol. Cynhaliwyd yr arolwg gan Swyddogion Iau Diogelwch Ffordd yr ysgol drwy ddefnyddio dyfais cyflymder laser a ddaliwyd â llaw. Dangosir y canlyniadau islaw.
CANLYNIADAU AROLWG CYFLYMDER
8 Hydref - Sesiwn 2.15pm i 2.35pm
Nifer cerbydau = 18 Cyflymder cyfartalog 14.5mya Torrodd 1 car y terfyn cyflymder ar 22mya
14 October 2008 - Sesiwn 2.25pm i 2.35pm
Nifer cerbydau = 24 Cyflymder cyfartalog 16.3mya Torrodd 1 car y terfyn cyflymder ar 27 mya ac 1 fan ar 29mph
15 Hydref 2008 – Cynhaliwyd dwy sesiwn am 10.20am i 10.45am a 2.20pm i 2.45pm
Nifer cerbydau = 56 Cyflymder cyfartalog 15.9mph Torrodd 2 car y terfyn cyflymder ar 22mya, 1 ar 23mya, 1 ar 23 mya, ac 1 ar 28mya.
16 Hydref 2008 – Cynhaliwyd dwy sesiwn am 10.15am i 10.45am a 2.15pm i 2.30pm
Nifer cerbydau = 34 Cyflymder cyfartalog 16.4mph Torrodd 3mya, 1 ar 22 mya, 1 ar 24mya ac 1 ar 26mya.
17 Hydref 2008 - Sesiwn 10.20am i 10.45am
Nifer cerbydau 33 Cyflymder cyfartalog 16.9mph Torrodd 1 car y terfyn cyflymder ar 21mya, un ar 22mya, 1 ar 24mya, 1 ar 25mya ac un ar 26mya.
22 Hydref 2008 - Sesiwn 10.30am i 10.45am
Nifer cerbydau = 27 Cyflymder cyfartalog 15.9mph Torrodd 1 car y terfyn cyflymder am 21mya ac 1 am 22mya
23 Hydref 2008 - Sesiwn 2.15pm i 2.30pm
Nifer cerbydau = 33 Cyflymder cyfartalog 14.2mph Torrodd 2 car y terfyn cyflymder ar 22mya
AROLWG YN GYFFREDINOL
Cyfanswm nifer cerbydau 225
Cyflymder cyfartalog am yr holl arolwg 15.7mya
Yn ystod yr arolwg, canfuwyd fod cyfanswm o 22 cerbyd yn gyrru yn gyflymach na’r terfyn amser 20mya. Y cyflymder cyfartalog ar gyfer y cerbydau hyn oedd 23.2mya.
Mae gwybodaeth fanylach ar gael os dymunwch drwy gysylltu â:-
Maria Baris
Swyddog Diogelwch Ffyrdd (Blaenau Gwent)
Capita Symonds
Ffôn:- 07818 036 940




